Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ni fydd ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 3am a 7am ar ddydd Iau, 22 Hydref tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Bydd y wefan hefyd allan o wasanaeth am tua phum munud rywbryd yn ystod y cyfnod hwn.
Os oes angen i chi riportio trosedd yn ystod y cyfnod hwn, ffoniwch ni ar 101, neu 999 mewn argyfwng.
Heddiw, fel rhan o Ddiwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu, ymunodd cydweithwyr â gwasanaeth byr ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gofio swyddogion heddlu sydd wedi marw wrth wasanaethu ledled y Deyrnas Unedig.
Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan, a ymunodd hefyd â Gwasanaeth Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn Belfast ddydd Sul, lle daeth cynrychiolwyr o heddluoedd ledled y Deyrnas Unedig at ei gilydd i anrhydeddu swyddogion a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu eu cymunedau.

Yn ystod y gwasanaeth, dywedodd y Prif Gwnstabl wrth gydweithwyr:
"Mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn ein hatgoffa bod pob un sy'n gwasanaethu yn berson sy'n cael ei garu a'i werthfawrogi'n fawr.
"Mae'r rheini rydym yn eu cofio heddiw yn fwy na swyddogion heddlu; roedden nhw'n rhieni, yn bartneriaid, yn blant, yn frodyr ac yn chwiorydd, yn ffrindiau ac yn gydweithwyr.
"Mae pawb a oedd yn eu hadnabod yn teimlo eu habsenoldeb o hyd, ac mae ein meddyliau yn parhau gyda'r teuluoedd y newidiwyd eu bywydau am byth."

Mae Diwrnod Coffa Cenedlaethol yr Heddlu yn gyfle i fyfyrio ar ymroddiad, dewrder ac aberth y rheini sydd wedi gwasanaethu ym maes plismona, ac i gofio'r rhai hynny a roddodd eu bywydau wrth wasanaethu.
Yn ystod y gwasanaeth, bu munud o dawelwch ymysg cydweithwyr er cof am swyddogion heddlu sydd wedi marw wrth wasanaethu ledled y Deyrnas Unedig.
Ni chaiff eu gwasanaeth a'u haberth fyth eu hanghofio.