Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyfreithiwr amddiffyn troseddol a ddaeth yn rhan o gyflenwi cocên a chyffuriau dosbarth C ymhlith tri dyn a gafodd eu carcharu yn dilyn ymchwiliad mawr gan Heddlu De Cymru.
Ymchwiliwyd i Ben Garvey, Daniel Baker a Jake Blackburn fel rhan o Ymgyrch Kilau – ymchwiliad cymhleth dan arweiniad y Tîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol gyda chymorth Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian.
Datgelodd yr ymchwiliad dystiolaeth bod y tri dyn, a oedd yn adnabod ei gilydd ac a oedd â chysylltiadau ag ardal Sandfields ym Mhort Talbot, yn rhan o weithgarwch cyflenwi cocên.
Ar adeg y troseddu, roedd Garvey yn ymarfer fel cyfreithiwr amddiffyn troseddol.
Dechreuodd yr ymchwiliad ar ôl i Baker gael ei arestio ym mis Awst 2021, mewn cysylltiad â throseddau gwahanol o gyflenwi cocên, pan fu Garvey a'i gwmni yn ei gynrychioli.
Ond drwy ddadansoddi ffonau symudol a dyfeisiau eraill, datgelwyd bod Garvey ei hun hefyd yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau.
Canfu swyddogion fod Blackburn wedi bod yn dosbarthu cyffuriau ar ran Baker. Roedd negeseuon hefyd yn datgelu bod cocên yn cael ei gyflenwi i Garvey.
Chwiliodd yr heddlu gartref Garvey ym mis Medi 2021, ac o ganlyniad i hyn gwnaeth swyddogion atafaelu rhagor o ddyfeisiau symudol a steroidau, sef cyffur dosbarth C.
Datgelodd archwiliad pellach o'r dyfeisiau fod Garvey yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflenwi cocên a steroidau ymysg ei gysylltiadau.
Roedd Garvey yn aelod gweithredol o grŵp Whatsapp yn cynnwys 17 person lle bu aelodau'n trafod prynu a chyflenwi cocên rhwng 2020 a 2021. Mae negeseuon rhwng y grŵp hefyd yn cynnwys lluniau o gocên yn cael ei ddefnyddio a delweddau o symiau cyfanwerthol o gyffuriau.
Tra roedd Baker yn y ddalfa ym mis Awst 2021, bu Garvey yn gyfryngwr ar gyfer negeseuon troseddol rhwng Baker a Blackburn.
Yn dilyn treial a gynhaliwyd yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst (2026) cafwyd y tri dyn yn euog o droseddau yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Dedfrydwyd y tri yn Llys y Goron Bryste ddydd Mawrth 29 Awst 2026:
Ar adeg y dedfrydu, roedd Daniel Baker eisoes yn treulio dedfryd yn y carchar, ar ôl cael ei arestio gan swyddogion Tarian a'i gael yn euog wedyn o dorri Gorchymyn Atal Troseddau Difrifol.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Prif Arolygydd Russ Jenkins:
"Roedd hwn yn ymchwiliad hynod gymhleth ac roedd yn ofynnol ymdrin yn ofalus â swm sylweddol o ddeunydd a oedd yn freintiedig yn gyfreithiol.
Roedd Ben Garvey yn ymarfer fel cyfreithiwr amddiffyn troseddol drwy gydol y cyfnod troseddu, a oedd yn rhychwantu sawl blwyddyn. Fel swyddog y llys, roedd ganddo ddyletswydd glir i gynnal uniondeb y system cyfiawnder troseddol. Yn hytrach, dewisodd fynd yn groes i'r swydd gyfrifol honno drwy gymryd rhan weithredol yn yr union droseddu yr oedd ganddo ddyletswydd broffesiynol i'w herio.
"Mae'r dedfrydau heddiw yn adlewyrchu pa mor ddifrifol yw'r troseddau hyn a dylent fod yn rhybudd clir i eraill sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau mewn modd cyfundrefnol."