Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Connor Preece, 26 oed o Dremorfa, George Payne, 27 oed o ardal Glanyrafon, Shay Eedy, 24 oed o Lanfa'r Iwerydd, a Kai Phillips, 22 oed o'r Rhath, eu carcharu ar ôl iddynt gael eu dedfrydu ar 18 Medi yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd y grŵp eu dal ar ôl i dîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol Caerdydd a’r Fro amau eu bod wedi gweld Payne yn cyflawni’r hyn oedd yn ymddangos fel delio cyffuriau ar 25 Chwefror 2026. Wrth iddo gael ei arestio, gwelwyd BMW coch yn gyrru i ffwrdd ar gyflymder.
Chwiliodd swyddogion y fflat yr oedd Payne wedi bod ynddo cyn yr hyn yr oedden nhw’n amau oedd yn achos posibl o ddelio cyffuriau, a daethant o hyd i Preece gydag arf tanio a bwledi, ynghyd â chyffuriau yr amheuwyd eu bod yn gocên a heroin. Cafodd Preece ei arestio hefyd.
Wedi mwy o waith ymchwilio ac ymholiadau teledu cylch cyfyng, cafodd dau ddyn arall, y cadarnhawyd bellach mai Phillips ac Eedy yw eu henwau – eu cysylltu â’r fflat a’r BMW. Cafodd Phillips ei arestio ddeuddydd yn ddiweddarach. Ar ôl dysgu bod swyddogion yn cynnal ymholiadau i'w arestio, aeth Eedy i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd o'i wirfodd ar 3 Mawrth.
Plediodd Preece yn euog i fod ag arf tanio llai na 30cm/60cm o hyd - arf gwaharddedig - yn ei feddiant, bod â bwledi a chetris ar gyfer arf tanio yn ei feddiant tra roedd wedi'i wahardd am bum mlynedd, bod â chyffur rheoledig o Ddosbarth A, sef Heroin, yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a bod â chyffur rheoledig o Ddosbarth A, sef Cocên, yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi. Cafodd ei ddedfrydu i 11 o flynyddoedd
Plediodd Payne yn euog i gyflenwi cyffur rheoledig o Ddosbarth A, sef Crac Cocên, bod â chyffur rheoledig o Ddosbarth A, sef Heroin, yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a bod â chyffur rheoledig o Ddosbarth A, sef Cocên, yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi. Cafodd ei ddedfrydu i pedwar o flynyddoedd a tri fisoedd.
Plediodd Phillips ac Eedy yn euog i ymwneud â chyflenwi heroin, ymwneud â chyflenwi cocên, ac ymwneud â chyflenwi crac cocên. Cafodd Phillips ei ddedfrydu i pump o flynyddoedd a un fisoedd. Cafodd Eedy ei ddedfrydu i pedwar flynyddoedd a un fisoedd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Alexander Bartley:
"Mae ein tîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol wedi ymrwymo i amharu ar gangiau cyffuriau a'u dymchwel a, diolch i waith caled yr ymchwilwyr, doedd gan y grŵp fawr o ddewis ond pledio'n euog i'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
“Mae'r math hwn o droseddu yn cael effaith ddinistriol ar y cyhoedd a'r cymunedau maen nhw'n byw ynddynt, felly rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi rhywfaint o sicrwydd iddynt y byddwn ni'n gweithredu."
Mae ymdrin â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i ddal troseddwyr er mwyn amddiffyn cymunedau rhag niwed.
Os ydych chi’n amau bod delio cyffuriau’n digwydd neu’n pryderu efallai bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, dywedwch wrthym ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101 neu os oes well gennych chi gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw - ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os yw rhywun mewn perygl ar unwaith neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.