Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hysbysiad cynnal a chadw gwefan: Oherwydd gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i drefnu ar y platfform, ni ellir cyflwyno ffurflenni rhwng 11.55pm ar ddydd Mawrth, 8 Medi a 7am ar ddydd Mercher, 9 Medi. Bydd gweddill y wefan yn parhau i weithredu fel arfer. Dychwelwch ar ôl 7am ar 9 Medi os ydych am gyflwyno adroddiad ar-lein.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl ymchwiliad gan Heddlu De Cymru i ddau gar wedi'u dwyn, a throseddau lladrad eraill.
Dedfrydwyd Liam McDonald, 35 oed, heb breswylfa sefydlog, i 91 wythnos (blwyddyn a naw mis) ar 4 Medi yn Llys y Goron Caerdydd.
Mae hefyd wedi'i wahardd rhag gyrru am dair mlynedd.
Roedd McDonald wedi pledio'n euog o'r blaen i:
Clywodd y llys sut dechreuodd McDonald ei gyfres o droseddau ar 8 Gorffennaf, pan wnaeth ddwyn pum jar o goffi o B&M yn Lecwydd.
Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ar 10 Gorffennaf, riportiwyd bod car wedi'i ddwyn o gyfeiriad yng Nghaerdydd. Yn dilyn ymholiadau teledu cylch cyfyng, gwnaeth y swyddog ymchwilio ganfod bod dyn ar feic – y gwyddom bellach mai McDonald ydoedd – yn gyfrifol am ddwyn y car. Daethpwyd o hyd i'r car ddau ddiwrnod yn ddiweddarach wedi'i adael rhwng Heol Sloper a Heol Lecwydd.

Ar 21 Gorffennaf, gwnaeth McDonald ddwyn dwy botel o wisgi gwerth £119 o Waitrose ym Mhontprennau.
Daeth gweithgareddau McDonald's i ben ar 27 Gorffennaf, yn dilyn galwad 999 yn riportio bod car newydd gael ei ddwyn. Roedd swyddogion plismona'r ffyrdd yn cynnal chwiliad o'r ardal am y car wedi'i ddwyn pan gafodd ei weld yn gyrru tua chyfeiriad y swyddogion.
Wrth weld y swyddogion, gyrrodd McDonald i ffwrdd yn beryglus ac awdurdodwyd erlid. Yn y pen draw, llwyddodd swyddogion i gaethiwo'r cerbyd ac arestio McDonald yn ddiogel:

Yna cafodd ei gysylltu ymhellach â'r digwyddiadau cynharach a'i arestio mewn cysylltiad â nhw.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Paul Griffiths o dîm cymdogaeth Caerdydd:
"Gwnaeth McDonald gyflawni cyfres o droseddau a gafodd effaith sylweddol ar y bobl a'r busnesau yn ei gymunedau. Hefyd gwnaeth roi pobl ar y ffordd mewn perygl y diwrnod hwnnw yn sgîl ei ffordd o yrru, a hynny heb drwydded. Rwy'n falch o weld y ddedfryd hon yn cael ei rhoi heddiw.”