Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion a lluniau camera cerbyd o wrthdrawiad traffig ffordd a ddigwyddodd yn Heol Penarth, Caerdydd, nos Wener (4 Medi).
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad am wrthdrawiad rhwng car a beic trydan ger Costa tua 7.40pm.
Bu’n rhaid i ddau fachgen 16 oed o ardal Glan yr Afon gael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Credir mai nhw oedd yn reidio'r beic.
Mae dyn 19 oed o Grangetown a arestiwyd ar amheuaeth o ymosod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach barhau.
Mae dau berson wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Yn ôl y disgrifiad, mae'r car dan sylw yn Volkswagen Golf llwyd. Nid oedd y beic trydan i’w weld pan gyrhaeddodd swyddogion yr heddlu.
Gofynnir i unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth neu luniau gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r dulliau canlynol gan grybwyll 2600291128.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.