Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri o bobl wedi cael eu carcharu ar ôl i'r heddlu chwilio eiddo ym Mhen-y-waun ym mis Ebrill 2026
Dedfrydwyd Ashley Clarke, 24 oed o Aberdâr, i ddwy flynedd a deng mis o garchar a chafodd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd yn dilyn ei euogfarn.
Cafodd Bradley Clarke-Wright, 27 oed o Aberdâr, ei ddedfrydu i dair blynedd a thri mis yn y carchar yn dilyn ei euogfarn.
Cafodd David Price, 44 oed o Aberdâr, ei ddedfrydu i dair blynedd a thri mis yn y carchar ôl iddo gael ei euogfarnu.
Cafodd y tri unigolyn eu dedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mercher 2 Medi, lle plediodd Clarke yn euog i gyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cocên, gyrru tra roedd wedi'i wahardd, gyrru heb yswiriant ac ymwneud â chyflenwi cyffur Dosbarth B, sef canabis.
Plediodd Clarke-Wright yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, ymwneud â chyflenwi cyffur Dosbarth B - sef canabis, a chaffael/defnyddio eiddo troseddol.
Plediodd Price yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, ymwneud â chyflenwi cyffur Dosbarth B - canabis, a bod â chyffur Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, sef MDMA.
Mae’r achos yn deillio o gudd-wybodaeth oedd yn dangos bod Clarke yn rhedeg llinell gyffuriau yn yr ardal, a arweiniodd at swyddogion o'n huned Troseddau Difrifol Cyfundrefnol yn mynd i gyfeiriad ym Mhen-y-waun ym mis Ebrill 2026. Pan gyrhaeddodd swyddogion, ceisiodd Clarke redeg i fwrdd ond fe gafodd ei arestio'n gyflym. Wrth i Clarke gael ei arestio, aeth ei frawd, Clarke-Wright, at swyddogion a gwnaethant ei arestio gan fod yr heddlu wedi bod yn chwilio amdano mewn cysylltiad â throsedd arall. Pan chwiliodd swyddogion Clarke-Wright, fe ddaethon nhw o hyd i £10,000 mewn arian parod a ffôn symudol yn cynnwys negeseuon oedd yn ei gysylltu â’r llinell gyffuriau.
Darganfuwyd cyffuriau, geriach cyffuriau ac arian parod wrth chwilio'r eiddo. Pan gafodd cynnwys ffôn symudol Clarke-Wrights ei lawrlwytho, gwelwyd bod enw Price wedi cael ei ddefnyddio mewn negeseuon sawl tro wrth drafod cyflenwi cyffuriau. Aeth swyddogion i'r cyfeiriad ym Mhen-y-waun ac atafaelwyd mwy o gyffuriau a chyfarpar cyffuriau.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Arron Howitt: "Mae'r grŵp hwn yn grŵp cyffuriau arall a gafodd ei ddarganfod yn rhan o'n hymchwiliadau i gyflenwi cyffuriau yn Aberdâr.
“Fel llawer o ddrwgweithredwyr eraill yn y gorffennol, bydd yr unigolion hyn yn wynebu dedfryd hir o garchar am fod yn rhan o’r fasnach anghyfreithlon hon”