Stamp amser presennol: 08/09/2026 03:21:25
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Cau y bar cyhoeddiad

Rhybudd Hysbysiad

Hysbysiad cynnal a chadw gwefan: Oherwydd gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i drefnu ar y platfform, ni ellir cyflwyno ffurflenni rhwng 11.55pm ar ddydd Mawrth, 8 Medi a 7am ar ddydd Mercher, 9 Medi. Bydd gweddill y wefan yn parhau i weithredu fel arfer. Dychwelwch ar ôl 7am ar 9 Medi os ydych am gyflwyno adroddiad ar-lein.

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Ymgyrch Eagle: dedfrydu wyth o bobl yn dilyn ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon

Cynnwys y prif erthygl

Abertawe/Castell-nedd Port Talbot Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 12:20 03/09/2026

Mae saith dyn ac un fenyw wedi cael eu dedfrydu yn dilyn ymchwiliad i nifer o unigolion allweddol ym maes cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, ac achosion cyfundrefnol o ddwyn cerbydau a thwyll cysylltiedig, yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

O dan Ymgyrch Eagle, cynhaliwyd wythnos orfodi y llynedd pan atafaelwyd cyffuriau, arian parod, ffonau symudol, cerbydau ac eitemau eraill gan y tramgwyddwyr.

Atafaelwyd cyfanswm o £2,799 mewn arian parod, yn ogystal â metelau gwerthfawr (aur a phlatinwm) gwerth £5,100 yn ôl amcangyfrifon.

Atafaelwyd hefyd swm sylweddol o gyffuriau - gan gynnwys 360 gram o heroin, tua 250 gram o getamin tybiedig a symiau o gocên, canabis a thabledi - yn ogystal â deunydd pecynnu a phethau eraill yn ymwneud â chyffuriau.

Sean MCCABE SWP.png
Sean McCabe

 

Plediodd Sean McCabe, 33 oed, o Townhill, yn euog i gynllwynio i ddwyn cerbyd modur, cynllwynio i dwyllo, cynllwynio ynghyd ag eraill i ymwneud â chyflenwi cocên a chynllwynio i gyflenwi canabis. Mae ef wedi cael ei ddedfrydu i 11 blynedd a 6 mis o garchar.

Michael BRAIN SWP.png
Michael Brain

 

Plediodd Michael Brain, 41 oed, o Waunarlwydd, Abertawe, yn euog i gynllwynio i ddwyn cerbyd modur, cynllwynio i dwyllo, meddu ar gocên, heroin a chetamin gyda'r bwriad o'u cyflenwi a chynllwynio i gyflenwi cocên. Mae ef wedi cael ei ddedfrydu i 5 blynedd a 7 mis o garchar.

Joshua POPE SWP.png
Joshua Pope

 

Plediodd Joshua Pope, 33 oed, o Dreforys, Abertawe, yn euog i gynllwynio i ddwyn cerbyd modur a chynllwynio i gyflawni twyll drwy gynrychiolaeth ffug, ac mae ef wedi cael ei ddedfrydu i 5 mlynedd o garchar (2 flynedd am ddwyn cerbyd – wedi'u hychwanegu at y 3 blynedd am gyflenwi cyffuriau o'r llynedd).

Daniel BRYANT SWP.png
Daniel Bryant

 

Plediodd Daniel Bryant, 36 oed, o Waun Wen, Abertawe, yn euog i gynllwynio i ddwyn cerbyd modur ac ymwneud â chyflenwi cocên a chanabis. Mae ef wedi cael ei ddedfrydu i 4 blynedd a 5 mis o garchar.

Jake THOMAS SWP 2026.png
Jake Thomas

 

Plediodd Jake Thomas, 29 oed, o Flaenymaes, yn euog i  gyflenwi heroin, cetamin, cocên a chanabis, yn ogystal â chynllwynio i ddwyn cerbyd modur. Cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd a thri mis yn y carchar.

Steffan HOPKINS SWP.png
Steffan Hopkins

Plediodd Steffan Hopkins, 27 oed, o ganol dinas Abertawe, yn euog i gynllwynio i gyflenwi canabis a meddu ar ganabis. Mae ef wedi cael ei ddedfrydu i 14 mis o garchar.

Plediodd Lindsey Martin, 31 oed, o Townhill, Abertawe, yn euog i gynllwynio i dwyllo ac mae hi wedi cael ei dedfrydu i 12 mis (wedi'u gohirio am 12 mis).

Plediodd Mumen Khan, 24 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr, yn euog i gynllwynio i ddwyn cerbyd modur, ac mae ef wedi cael ei ddedfrydu i 22 mis (wedi'u gohirio am 2 flynedd).

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard George:

"Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad ardderchog, diolch i waith tîm rhagorol rhwng swyddogion yn Abertawe a thu hwnt, gyda chefnogaeth Ymateb Amlasiantaeth i Droseddau Cyfundrefnol Difrifol (MARSOC), yr Uned Fforenseg Ddigidol (DFU), yr Uned Fforenseg ar y Cyd (JFU) a'r Tîm Cymorth Tiriogaethol (TST), ymysg eraill.

"Rhaid talu teyrnged hefyd i waith y Timau Ymchwilio i Droseddau Cyfundrefnol Difrifol a'r Uned Gudd-wybodaeth."

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd, Stephen Jones:

"Yn ystod yr ymgyrch hwn, bu'r tîm ymchwilio yn gweithio oriau hir, yn galed iawn, i gyflawni'r canlyniadau gwych hyn, gan atafaelu cyffuriau ac eiddo wedi'u dwyn a'u tynnu o'r cylch troseddol.

"Mae'r arestiadau a'r dedfrydau yn ergyd enfawr i bocedi troseddwyr. Yn y pen draw, mae'r ymchwiliad hwn wedi amddiffyn y cyhoedd ac wedi diogelu ein cymuned.

"Bydd hefyd yn cael effaith o ran lleihau'r galw rheng flaen am swyddogion yn y gymdogaeth ac ymateb."

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.