Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o gyflawni troseddau rhywiol yn erbyn plentyn yn y gorffennol.
Roedd James Miller, 49 oed o Sandfields, wedi cyflawni nifer o droseddau yn erbyn yr un dioddefwr rhwng 1993 a 2001.
Treisiodd Miller y dioddefwr pan oedd hi'n 12 oed, gan ymosod arni'n anweddus ac yn rhywiol ar fwy na deg achlysur.
Cysylltodd y dioddefwr â'r heddlu i roi gwybod am gamdriniaeth Miller yn 2023.
Ar 10 Medi, cafwyd Miller yn euog o dreisio merch dan 16 oed, pum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch dan 14 oed, a dau gyhuddiad o anwedduster difrifol yn erbyn merch dan 14 oed.
Heddiw, mae wedi cael ei ddedfrydu i 16 mlynedd o garchar a blwyddyn ar drwydded. Mae'n rhaid iddo fwrw dwy ran o dair o'r ddedfryd hon er mwyn bod yn gymwys i ymddangos gerbron bwrdd parôl.
Mae wedi cael gorchymyn atal yn erbyn y dioddefwr am gyfnod amhenodol, ac mae hefyd yn destun gofynion hysbysiad troseddwr rhyw am gyfnod amhenodol a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jacquetta Jones:
"Drwy ei droseddau erchyll, gwnaeth James Miller fywyd ei ddioddefwr, sef plentyn diamddiffyn, yn uffern.
"Nid yn unig y cymerodd flynyddoedd ei phlentyndod oddi wrthi drwy ei cham-drin yn rhywiol, ond hefyd blynyddoedd o’i bywyd fel oedolyn. Heb os, bydd trawma'r hyn a ddigwyddodd yn aros gyda hi am weddill ei hoes.
"Rydym yn hynod falch o'r dioddefwr am fod yn ddigon dewr i gysylltu â ni. Nawr y bydd James Miller yn mynd i’r carchar, rydym yn gobeithio y bydd hynny’n dechrau lleddfu’r baich cafodd ei weithredoedd arni."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Mae cyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth ar gael yma.