Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Cafodd Christopher Hallett, 32 oed o'r Porth, ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar yn dilyn ei euogfarn.
Dedfrydwyd Hallett yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth 1 Medi lle plediodd yn euog i gyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cyffur rheoledig o Ddosbarth B – canabis, cyhuddiad o fod â chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi a chyhuddiad o gaffael/defnyddio/meddu ar eiddo troseddol.
Roedd hyn yn dilyn cudd-wybodaeth a awgrymodd fod Hallett yn ymwneud â phrynu a chyflenwi symiau cyfanwerthol o ganabis ar draws ardal y Rhondda. Aeth swyddogion i gartref Hallett yn y Porth a'i arestio. Wrth i swyddogion chwilio ei gartref, daethant o hyd i sawl bag mawr yn cynnwys canabis â gwerth manwerthu rhwng £67,000 a £115,000. Daethant o hyd i £22,000 mewn arian parod yn yr eiddo hefyd.
Cafodd cynnwys ffôn Hallett ei lawrlwytho a chanfuwyd negeseuon yn dangos ei fod wedi archebu symiau mawr o ganabis. Roedd ganddo nifer o fêps canabis hefyd y daeth swyddogion o hyd iddynt mewn ysgolion lleol yn nes ymlaen.
Dywedodd y Cwnstabl Adam Lewis: "Roedd hon yn ymgyrch enfawr i werthu symiau cyfanwerthol o gyffuriau ar draws rhanbarth y Rhondda."
Gwnaeth ein timau weithredu yn sgil gwybodaeth, ac mae hynny wedi arwain at anfon Hallett i'r carchar am gyfnod sylweddol o amser."
"Mae cyffuriau yn cael effaith enfawr ar ein cymunedau, felly mae cadw'r cyffuriau hyn oddi ar y strydoedd yn flaenoriaeth i'n timau."