Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl canfod ei fod yn rheoli llinell cyflenwi cyffuriau cocên yn y ddinas.
Cafodd Joshua Dennis, 32 oed, o Mayhill, ei arestio yn ystod gwarant yn ei gartref ar 25 Gorffennaf.
Plediodd Dennis yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, meddu ar gocên, a meddu ar eiddo troseddol mewn perthynas ag arian parod a ddarganfuwyd yn ei eiddo, ar 28 Awst.
Mae Dennis wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd a saith mis yn y carchar, sef yr isafswm dedfryd o garchar am fasnachu cyffuriau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard George:
"Roedd Joshua Dennis yn ffigwr allweddol mewn grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A i bobl agored i niwed yn Abertawe. Roedd ei ymddygiad troseddol yn niweidio ein dinas ac mae'n haeddu ei gyfnod hir yn y carchar.
"Mae Abertawe yn lle gwell a mwy diogel heb bobl fel Joshua Dennis yn rhoi cyffuriau anghyfreithlon ar ei strydoedd ac yn difetha bywydau di-ri."
Mae ymdrin â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i ddal troseddwyr er mwyn amddiffyn cymunedau rhag niwed.
Os ydych chi’n amau bod delio cyffuriau’n digwydd neu’n pryderu efallai bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grwp troseddau cyfundrefnol, dywedwch wrthym ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101 neu os oes well gennych chi gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw - ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os yw rhywun mewn perygl ar unwaith neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.