Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o'r Gurnos wedi cael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Dedfrydwyd Conner Price, 26 o'r Gurnos, i dair blynedd a phedwar mis ar ôl ei euogfarn.
Cynhaliwyd y dedfrydu ddydd Gwener 18 Medi yn Llys y Goron Caerdydd lle plediodd Price yn euog i un cyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cocên, un cyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cocên crac, un cyhuddiad o feddu ar gocên gyda'r bwriad o'i gyflenwi, un cyhuddiad o feddu ar gocên crac gyda'r bwriad o'i gyflenwi, un cyhuddiad o gaffael/ddefnyddio eiddo troseddol, gyrru tra roedd wedi'i wahardd a gyrru heb yswiriant.
Bu hyn ar ôl i swyddogion o'r uned troseddau cyfundrefnol difrifol gynnal patrolau ym Mharc Manwerthu Cyfartha ym mis Mehefin 2026. Fe wnaeth y swyddogion adnabod Price yn gyflym wrth iddo yrru Seat Leon coch, ac yna gwnaethant gadw golwg ar Price wrth iddo ddelio cyffuriau ym maes parcio'r parc manwerthu. Fe wnaeth swyddogion arestio'r dyn a brynodd y cyffuriau a dod o hyd i ddau fag o bowdr gwyn. Fe wnaethon nhw hefyd lawrlwytho ei ffôn lle darganfuwyd sawl neges yn cynnig gwerthu cocên. Byddai'r negeseuon hyn yn cael eu cysylltu â Price yn ddiweddarach.
Yna aeth swyddogion i gartref Price a'i weld yn gadael y car Seat Leon. Pan aethant i mewn i'r eiddo dechreuodd Price daflu eitemau allan o ffenestr uchaf y tŷ. Wedi ei arestio, chwiliodd swyddogion yr eiddo a dod o hyd i sawl lwmp o ddeunydd gwyn. Ar ôl chwilio yn ei gar, daeth swyddogion o hyd i £2,000 mewn arian parod a sawl bag snap â phowdr gwyn ynddynt.
Fe wnaethant hefyd ddod o hyd i ffôn a oedd yn cysylltu Price â llinell gyffuriau a mwy na 100 o gysylltiadau yn ei ffôn yn cael negeseuon yn rheolaidd yn cynnig gwerthu cyffuriau.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Cameron Allcock:
"Roedd hon yn ymgyrch gyfanwerthol enfawr ar gyfer gwerthu cyffuriau yn rhanbarth Merthyr, a oedd wedi bod ar waith ers peth amser.
"Gwnaeth ein timau weithredu yn sgil gwybodaeth, ac mae hynny wedi arwain at anfon Price i'r carchar am gyfnod sylweddol o amser.
"Mae cyffuriau yn cael effaith enfawr ar ein cymunedau, felly mae cadw'r cyffuriau hyn oddi ar y strydoedd yn flaenoriaeth i'n timau."