Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar un o'i ddiwrnodau plismona prysuraf y flwyddyn, bydd gan Heddlu De Cymru ragor o swyddogion yn patrolio canol ein dinasoedd a'n trefi y penwythnos hwn ar gyfer y Dydd Sadwrn Olaf (14 Mawrth).
Dydd Sadwrn Olaf yw'r enw a roddwyd yn draddodiadol i rownd olaf y Chwe Gwlad pan fydd yr holl dimau sy'n cystadlu yn chwarae ar yr un diwrnod.
Gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, timau teledu cylch cyfyng, lleoliadau, staff drws, darparwyr trafnidiaeth a phartneriaid cymunedol ehangach, byddwn yn darparu ymgyrch blismona weledol iawn a fydd yn canolbwyntio ar y canlynol:
Gall y cyhoedd disgwyl gweld mwy o swyddogion yn patrolio mewn mannau problemus y bywyd nos ym mhob rhan o ardal yr heddlu, gan gynnwys yng nghanol dinas Abertawe a Chaerdydd. Bydd canol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf hefyd yn gweld mwy o swyddogion.
Bydd swyddogion yn defnyddio amrywiaeth o bwerau i ymdrin ag ymddygiad problemus yn gyflym ac yn effeithiol, gan ddefnyddio pwerau gwasgaru Adran 35 sy'n galluogi swyddogion i gyfeirio unigolion i ffwrdd o ardal lle mae eu hymddygiad yn debygol o achosi aflonyddwch, braw, gofid, trosedd neu anhrefn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Simon Davies, sy'n arwain yr ymgyrch blismona:
“Mae'r Dydd Sadwrn Olaf bob amser yn noson fawr, a'n blaenoriaeth yw cadw pobl yn ddiogel.
“Mae Heddlu De Cymru wedi dod i'r arfer â phlismona amrywiaeth eang o ddigwyddiadau mawr, yn benodol yng Nghaerdydd, ac rydym yn falch o chwarae ein rhan wrth gadw ymwelwyr â'n trefi a'n dinasoedd yn ddiogel.
“Byddwn yn weledol iawn, yn rhagweithiol ac yn barod i ymyrryd lle mae risg o ymddygiad yn gwaethygu. Rydym am i bawb fwynhau eu hunain – ond byddwn yn ymdrin ag unrhyw un sy'n bwriadu achosi anhrefn yn gadarn.”
Gofynnwn i'r cyhoedd ein helpu drwy wneud y canlynol:
Os byddwch yn gweld rhywbeth sy'n peri pryder i chi, ewch at swyddog yr heddlu.
Fel arall, cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.