Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Pwerau ychwanegol i swyddogion yr heddlu er mwyn atal cynulliadau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llaneirwg
Daw hyn ar ôl digwyddiad yn yr ardal siopa nos Fawrth 10 Mawrth.
Rhoddwyd pwerau ychwanegol i swyddogion yn Llaneirwg er mwyn atal cynulliadau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dilyn digwyddiad yn yr ardal siopa.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad am ddifrod troseddol ym maes parcio Tesco tua 5.30pm ddoe (dydd Mawrth 10 Mawrth) lle honnwyd bod cerrig yn cael eu taflu at geir.
Dyma’r digwyddiad diweddaraf yn dilyn cyfres o adroddiadau yn yr ardal am grwpiau mawr o bobl ifanc yn achosi difrod troseddol, yn ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol ac yn ymddwyn yn ymosodol tuag at aelodau o'r cyhoedd a swyddogion yr heddlu.
Dywedodd y Rhingyll Louise Tew o Heddlu De Cymru: “Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwad i siarad â'u pobl ifanc am beidio ag ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Sicrhewch hefyd eich bod yn gwybod gyda phwy y maen nhw’n cymdeithasu, beth maen nhw’n ei wneud a ble maen nhw.”
Mae'r gorchymyn, sydd wedi'i roi o dan Adran 35 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ar waith rhwng 3pm a 10pm heddiw (dydd Mercher 11 Mawrth).
O dan Adran 35 o'r Ddeddf, gall swyddogion yr heddlu gyfarwyddo unrhyw un sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod, i adael yr ardal fel y'i dangosir yn y map.

Bydd gan y swyddogion hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y maent yn amau sy'n cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ychwanegodd y Rhingyll Tew: “Mae'r gorchymyn gwasgaru ar waith fel mesur ataliol. Bydd swyddogion yn cymryd camau ar unwaith i orfodi'r pwerau ychwanegol a roddwyd iddynt i gadw'r gymuned yn ddiogel.”
Hoffem gydnabod y cymorth a roddwyd i swyddogion gan rai aelodau o'r cyhoedd yn ystod y digwyddiad ddoe.
Yn ystod y digwyddiad, cafodd pedwar e-sgwter eu hatafaelu. Mae’n anghyfreithlon reidio sgwter trydan preifat (a elwir hefyd yn ‘e-sgwter’) mewn mannau cyhoeddus, er enghraifft ar y palmant, ar y ffordd neu mewn parc.
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a dim ond un enghraifft yw'r gorchymyn gwasgaru hwn o'r gwaith rydym yn ei wneud.