Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Jamie Lewis, 33 oed o Bontypridd, wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a mis yn y carchar yn dilyn ei euogfarn.
Cafodd Alanis Davies, 28 oed o Bontypridd, ddedfryd o ddwy flynedd yn y carchar wedi'i gohirio am ddwy flynedd.
Cawsant eu dedfrydu ddydd Mercher 25 Chwefror 2026 yn Llys y Goron Caerdydd, lle plediodd Lewis yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, bod â chocên yn ei feddiant, ymwneud â chyflenwi canabis a chaffael eiddo troseddol.
Mae'r achos yn deillio o ymchwiliad gan Heddlu De Cymru a ddechreuodd pan oedd swyddogion yn ymchwilio i linell gyffuriau ym Mhontypridd ym mis Rhagfyr 2025. Gwnaeth swyddogion ddarganfod rhif ffôn symudol a oedd yn gysylltiedig â Lewis. Wrth i’r swyddogion gynnal ymholiadau arestio, gwelsant Lewis a Davies mewn car ac arestiwyd y ddau unigolyn.
Wrth i swyddogion chwilio'r car, daethant o hyd i ffôn Lewis a ddangosodd yn glir ei fod yn gysylltiedig â chyflenwad cocên. Yn ystod chwiliad o'i eiddo, daeth swyddogion o hyd i fag clir gyda sylwedd creigiog gwyn ynddo, yn ogystal â swm mawr o fagiau selio a chlorian. Daethpwyd o hyd i ddwy oriawr Rolex yn ystod y chwiliad hefyd.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Justyn Lewis "Mae ein swyddogion bob amser yn cynnal patrolau mewn cymunedau ledled y sir ac yn chwilio am ddelwyr cyffuriau. Mae Jamie Lewis bellach yn treulio cyfnod sylweddol yn y carchar, fel y mae'n haeddu.”