Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd Lee Scarfe, 38 oed o Bontypridd, i bedair blynedd a thri mis o garchar yn dilyn ei euogfarn.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Mercher 25 Chwefror 2026 yn Llys y Goron Caerdydd, lle plediodd Scarfe yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên.
Mae'r achos yn deillio o ymchwiliad gan Heddlu De Cymru a ddechreuodd pan oedd swyddogion yn ymchwilio i linell gyffuriau yn ardal Rhondda Cynon Taf. Yn ystod y chwiliad, gwnaeth swyddogion ddarganfod rhif ffôn symudol a oedd yn gysylltiedig â Scarfe.
Ar 8 Ionawr 2025, gwelwyd Scarfe yn gyrru car yn ardal y Barri. Cafodd ei stopio a'i arestio. Wrth chwilio'r car, daeth swyddogion o hyd i fag gyda £4,000 mewn arian parod ynddo, ac atafaelwyd ei ffôn. Pan gafodd data'r ffôn eu lawrlwytho, daeth swyddogion o hyd i negeseuon a oedd yn cysylltu Scarfe â chyflenwi cocên.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Rhodri Wilson, “Mae'r cyffuriau anghyfreithlon hyn yn cael effeithiau dinistriol ar bobl ymhellach i lawr y gadwyn sy'n eu defnyddio, heb anghofio am eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u cymunedau ehangach.”
Byddwn yn parhau i ymchwilio i unrhyw wybodaeth sydd gennych mewn perthynas â gwerthu neu ddefnyddio'r cyffuriau hyn”