Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Bentre wedi cael ei garcharu am ymosodiad a rheolaeth drwy orfodaeth yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Cafodd Daniel Batstone, 29 oed o Bentre, ei ddedfrydu i flwyddyn a chwe mis yn y carchar ar 23 Mawrth yn Llys y Goron Merthyr Tudful. Daw'r ddedfryd hon ar ôl i Batstone newid ei ble o ddieuog i euog am achos o ymddwyn mewn ffordd reolaethol a gorfodaethol, ac achos o ymosod gan achosi gwir niwed corfforol.
Aeth swyddogion i gyfeiriad ym Mhentre ym mis Awst 2025 ar ôl iddynt gael galwad 999 yn rhoi gwybod am aflonyddwch. Pan gyrhaeddon nhw, datgelodd y dioddefwr fod Batstone wedi bod yn rheoli rhannau o'i bywyd ers 2022.
Cafodd y gweithredoedd hyn effeithiau difrifol ar fywyd y dioddefwr ac, ar sawl achlysur, roedd hi'n ofni am ei diogelwch oherwydd bygythiadau a gweithredoedd treisgar Batstone.
Roedd enghreifftiau o’r trais yn cynnwys cicio'r dioddefwr yn ei stumog yn 2022 pan oedd yn feichiog, a'i dyrnu yn ei hwyneb ym mis Awst 2025.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jack Such: “Byddai hyn wedi bod yn brofiad brawychus a dychrynllyd i'r dioddefwr. Roedd ymddygiad Batstone yn gwbl annerbyniol, ac nid oes lle i drais yn erbyn menywod a merched yn ein cymunedau.
Hoffwn ganmol y dioddefwr yn yr achos hwn am ei hamynedd, ei dewrder a'i gwroldeb tra roedd yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen. Gobeithio y bydd y ddedfryd hon a’r ffaith y bydd yn treulio cyfnod yn y carchar yn dod â rhywfaint o gysur iddi."