Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar y gyffordd rhwng Heol Penarth a Heol Clare yn Grangetown ddydd Mercher (25 Mawrth 2026) am 12:27pm.
Mae teulu Miracle Oladoyinbo, y bachgen 16 oed a fu farw pan wnaeth y beic yr oedd yn ei reidio wrthdaro â SsangYong Tivoli, wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Roedd Miracle Oladoyinbo yn fachgen caredig, llawn llawenydd, yr oedd ei gariad dwfn at Dduw a'i ymrwymiad diysgog i'w ffydd yn diffinio ei fywyd. Yn gerddor dawnus, nid yn unig y byddai’n chwarae cerddoriaeth; byddai’n defnyddio ei dalentau er mwyn codi calonnau pawb o’i gwmpas a rhoi cysur iddynt.
Fe wnaeth cynhesrwydd Miracle gyffwrdd â phawb oedd yn ei adnabod, ac roedd ei natur garedig yn ysbrydoliaeth iddynt. Cafodd ei fywyd ei ddiweddu'n drasig o gynnar, ond bydd ei galon garedig a’i ffydd yn atseinio am byth yng nghalonnau'r teulu a'r gymuned oedd yn ei garu gymaint."
Mae swyddogion plismona ffyrdd sy'n ymchwilio i'r digwyddiad yn parhau i apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
Maent yn annog unrhyw un oedd yn teithio drwy’r ardal ar y pryd i edrych ar luniau camerâu cerbyd neu CCTV preifat am ddeunydd fideo a allai fod yn berthnasol.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â 101 – dyfynnwch y cyfeirnod 2600092224. Neu gellir cyflwyno gwybodaeth ar-lein: https://www.south-wales.police.uk/