Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, cafodd Alireza Askari, 42 oed o Gaerdydd, ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd am lofruddio Paria Veisi. Ymddangosodd ochr yn ochr â'i fodryb, Maryam Delavary, 48 oed, o White City Estate, gorllewin Llundain, a gafodd ei charcharu am wyrdroi cwrs cyfiawnder yn dilyn llofruddiaeth Paria.
Ymddangosodd y ddau yn Llys y Goron Caerdydd ar gyfer gwrandawiad dedfrydu dros ddau ddiwrnod, am eu bod eisoes wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau.
Cafodd Paria Veisi, a oedd yn 37 oed pan gafodd ei llofruddio, ei thrywanu yn ei gwddf a'i brest gan ei chyn-ŵr, Alireza Askari. Daeth ditectifs a oedd yn ymchwilio i'w diflaniad o hyd i'w chorff wedi ei gladdu yn ei ardd.
Ar 13 Ebrill 2025, cynhaliwyd ymholiadau cychwynnol am unigolyn coll yn nhŷ Askari yn Foster Drive, Pen-y-lan, Caerdydd. Ar yr adeg honno, roedd Askari gartref gyda'i gyd-droseddwr Maryam Delavary a gwadodd y ddau ohonynt eu bod yn gwybod unrhyw beth am leoliad Paria.
Cadarnhaodd ymholiadau helaeth gan yr heddlu nad oedd unrhyw dystiolaeth ei bod yn fyw; dim trafodion ariannol ac nid oedd ei Mercedes GLS du wedi symud dim.
Ar 19 Ebrill 2025, cafodd Alireza Askari ei gyhuddo o lofruddiaeth, atal corff marw rhag cael ei gladdu'n gyfreithlon ac yn barchus ac ymosod ar berson gan achosi niwed corfforol gwirioneddol. Ar yr un diwrnod, cafodd Maryan Delavary ei chyhuddo o atal corff marw rhag cael ei gladdu'n gyfreithlon ac yn barchus a chynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd Alireza Askari ei garcharu am X a chafodd Maryan Delavary ei charcharu am X.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell:
“Hoffwn yn gyntaf gydnabod y dewrder anhygoel a ddangoswyd drwy gydol y digwyddiad anodd hwn gan deulu Paria, yn enwedig ei mab ifanc. Roedd yn fraint i mi ddarllen geiriau ei mab yn llys y goron heddiw.
"Mae ei pherthnasau wedi cael eu hamddifadu o nifer o flynyddoedd hapus gyda Paria ac rydym yn parhau i feddwl amdanynt. Mae wedi dod i'r amlwg drwy gydol yr ymchwiliad hwn fod Paria yn fenyw a oedd yn cael ei charu'n fawr ac yn boblogaidd ymhlith pawb a oedd yn ei hadnabod, gan gynnwys y rhai a oedd yn mynd ati i dorri eu gwallt. Bydd yn cael ei cholli'n fawr gan bawb.
"Bydd Alireza Askari a Maryam Delavary bellach yn treulio amser hir yn y carchar am eu troseddau. Er na all teulu a ffrindiau Paria fyth ei chael yn ôl, rwyf yn gobeithio y byddant yn cael rhywfaint o gysur o wybod fod cyfiawnder wedi cael ei gyflawni.
"Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r holl dystion yn yr achos hwn, ac i'r gymuned am ei chymorth a'i dealltwriaeth drwy gydol ein hymchwiliad, yn arbennig yn ystod y camau cynnar pan roedd cymaint o ffocws ar ardal Pen-y-lan yng Nghaerdydd lle y digwyddodd y llofruddiaeth erchyll hon.”
Dywedodd chwaer Paria Veisi, Helia Veisi:
“Ni fydd y rheithfarn heddiw yn dod â Paria yn ôl atom, ac ni all wella'r boen ofnadwy o'i cholli. Fodd bynnag, mae'n gam pwysig tuag at gyfiawnder ac atebolrwydd.
“Hoffai ein teulu ddiolch yn fawr i Heddlu De Cymru, y system farnwrol a phawb a chwaraeodd rôl gydag ymroddiad, cyfrifoldeb ac ymdrech gyson i sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni.
“Nid dim ond dioddefwr oedd Paria, roedd hi'n fam, yn ferch, yn chwaer ac yn ffrind annwyl, a oedd yn garedig, yn llawn bywyd ac yn cael ei charu'n fawr. Bydd yr atgof ohoni yn parhau yn ein calonnau am byth ac mae'r boen o'i cholli yn glwyf na fydd amser byth yn ei wella'n llawn.”