Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dros 30 o unigolion yr amheuir eu bod wedi troseddu wedi'u harestio mewn un diwrnod fel rhan o Ymgyrch yng Nghaerdydd a'r Fro
Mae dros 30 o bobl, gan gynnwys siopladron honedig, troseddwyr treisgar, a'r rhai â gwarantau gweithredol wedi cael eu harestio fel rhan o ymgyrch yr heddlu ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Nod yr ymgyrch, a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, oedd rhoi unigolion y mae'r heddlu yn chwilio amdanynt yn y ddalfa.
Cafodd cyfanswm o 32 o bobl, gan gynnwys wyth person ar amheuaeth o ddwyn o siop, tri pherson ar amheuaeth o ymosod, tri pherson ar amheuaeth o affräe a dau berson ar amheuaeth o droseddau domestig, eu harestio yn ystod y diwrnod hwn o weithredu dwys. Roedd y cyfanswm hefyd yn cynnwys tri pherson a oedd yn destun gwarant a dau berson yr oedd yr heddlu'n chwilio amdanynt i'w dychwelyd i'r carchar.
Mae pedwar person wedi cael eu cyhuddo o ganlyniad i'r ymgyrch:
Cafodd Dwain Roberts, o Butetown, ei gyhuddo o dri achos o ddwyn o siop ac un achos o ymgais i ddwyn o siop;
Cafodd David Hewings, 43 oed o Lanrhymni, ei gyhuddo o dri achos o ymgais i gyflawni bwrgleriaeth mewn eiddo gyda'r bwriad o ddwyn, tri achos o gyflawni bwrgleriaeth mewn eiddo ac o ddwyn, ac un achos o gyflawni bwrgleriaeth gyda'r bwriad o ddwyn;
Cafodd Christina Cirpaci, 25 oed o Gasnewydd, ei chyhuddo o ddau achos o ddwyn o siop ac o rwystro cwnstabl rhag cyflawni ei ddyletswyddau;
Cafodd Lynsey Wyatt, 40 oed o Langatwg, Castell-nedd Port Talbot, ei chyhuddo o un achos o ddwyn o siop;
Mae tri pherson arall eisoes wedi cael eu heuogfarnu ar ôl cael eu harestio:
Cafodd Damion Spriggs, 26 oed o Trowbridge, ei euogfarnu am ddau achos o ddwyn o siop ac un achos o fod â chyffur rheoledig Dosbarth A yn ei feddiant. Caiff ei ddedfrydu yn ddiweddarach.
Cafodd Adrian Shellam, 50 oed o Gaerdydd, ei garcharu am wyth wythnos am un achos o ddwyn o siop ac un achos o dorri gorchymyn ymddygiad troseddol;
Cafodd Anthony Summerhayes, 39 oed o Gaerdydd, ei garcharu am 24 wythnos am bedwar achos o ddwyn o siop.
Dywedodd y Prif Arolygydd Matthew Hicks o uned reoli Caerdydd a'r Fro:
“Mae'r rhai sy'n destun gwarant neu dan amheuaeth o gyflawni trosedd yn cael eu harestio yn ein cymunedau bob dydd. Fodd bynnag, gall yr ymgyrchoedd dwysau hyn ddigwydd unrhyw amser ac yn unrhyw le, ac rydym eisoes yn gweld canlyniadau cadarnhaol y rhain"
“Rydym yn ymrwymedig i erlid y rhai sy'n achosi niwed i'n cymuned a'u dwyn i gyfrif. Os oes gennych bryderon yn eich ardal, rhowch wybod amdanynt a byddwn yn gweithredu."