Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn wedi cael eu carcharu am ladrad ym Merthyr Tudful, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Dedfrydwyd Jason Colin, 49 oed o Ferthyr Tudful, i dair blynedd yn y carchar yn dilyn ei euogfarn.
Cafodd Jonathan Pike, 46 oed o Ferthyr Tudful, ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar ar ôl cael ei euogfarnu.
Cafodd Matthew Winstone, 37 oed o Ferthyr Tudful, ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar ar ôl cael ei euogfarnu.
Cafodd y tri dyn eu dedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mawrth 10 Mawrth lle plediodd y tri ohonynt yn euog i ladrad.
Cafodd swyddogion wybod bod tri dyn yn ymddwyn yn amheus ger Hong Kong Lane a llysoedd barn Merthyr tua 19:30 ddydd Sul 1 Chwefror.
Gwelwyd Colin, Pike a Winstone ar gamerâu teledu cylch cyfyng yn mynd at y dioddefwr a siarad ag e am ddeng munud cyn y digwyddiad. Dechreuodd Pike ymosod ar y dioddefwr drwy ei bwnio sawl gwaith a'i daro yn ei ben â'i ben-glin. Tra oedd hyn yn digwydd, roedd Colin yn mynd drwy bocedi siaced y dioddefwr a cherddodd Winstone i ffwrdd gyda chês mawr oedd yn perthyn i’r dioddefwr.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Rhys Maiden “Ni chaiff troseddau treisgar eu goddef yn unrhyw le yn ein cymunedau, a bydd Colin, Pike a Winstone bellach yn wynebu cyfiawnder am eu gweithredoedd.
“Bydd ymosodiadau fel yr un a gyflawnodd y tri dyn yma’n cael effeithiau parhaus ar ddioddefwyr. Rwy'n gobeithio y byddan nhw’n defnyddio eu hamser yn y carchar i fyfyrio ar eu gweithredoedd ac yn dod yn aelodau mwy cynhyrchiol o'r gymuned pan fyddant yn cael eu rhyddhau yn y pen draw.”