Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau ei fod bellach yn ymchwilio i wybodaeth a arweiniodd at gau dwy ysgol yng Nghaerdydd fel achos o gyfathrebu maleisus.
Datganiad gan yr Uwch-arolygydd Matthew Codd, Heddlu De Cymru.
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau ei fod bellach yn ymchwilio i wybodaeth a arweiniodd at gau dwy ysgol yng Nghaerdydd fel achos o gyfathrebu maleisus.
Tua 8.30pm nos Sul 15 Mawrth, cafodd yr heddlu neges sgwrs fyw a oedd yn bygwth niweidio pobl ag arfau yn Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Uwchradd Eastern.
Cafwyd rhagor o negeseuon yn hwyr neithiwr (nos Lun 16 Mawrth) am Ysgol Uwchradd Sant Illtyd.
Mae ymholiadau helaeth wedi cael eu cynnal. Mae gwybodaeth wedi cael ei hasesu ac mae chwiliadau trylwyr wedi cael eu cynnal ym mhob ysgol.
Cynhaliwyd chwiliadau drwy'r nos i mewn i oriau mân fore heddiw (dydd Mawrth 17 Mawrth).
Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth bod unrhyw yn peri bygythiad wedi bod i'r un o'r ysgolion.
Rydym yn deall bod digwyddiadau'r wythnos hon wedi peri pryder ac wedi tarfu ar rieni a'r gymuned.
Wrth i'r ymchwiliad barhau i bennu tarddiad y cyfathrebu maleisus, gofynnwn i bobl osgoi lledaenu sïon a chamwybodaeth, ac i rannu gwybodaeth o ffynonellau swyddogol yn unig.
Rydym yn diolch i'r ysgolion, y rhieni a'r gymuned ehangach am eu cymorth a'u dealltwriaeth.