Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn o'r Barri wedi cael eu carcharu am ymwneud â llinell cyffuriau a oedd yn cyflenwi cocên ym mhob rhan o'r dref.
Cafodd Ryan Greening, Daniel Laity ac Adam Hartery eu carcharu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, 17 Mawrth, ar ôl pledio'n euog yn flaenorol i droseddau cyffuriau.
Chwalodd eu hymgyrch ar ôl i dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro lansio Ymgyrch Jensia.
Nododd ymchwiliad fforenseg ffôn trylwyr a ddadansoddodd negeseuon rhwng dyfeisiau mai Greening a Hartery oedd prif ddeiliaid y llinell, gyda Laity a bachgen arall a oedd yn 17 oed yn gweithredu fel rhedwyr – yn dosbarthu'r cyffuriau ac yn casglu arian parod.
Cawsant eu harestio ar 19 Medi yn ystod cam gorfodi'r ymgyrch. Roedd Greening yn cuddio yng nghyfeiriad Laity a chafodd Hartery ei arestio yn ei gyfeiriad cartref.
Cafodd y bachgen 17 oed y credir ei fod wedi cael ei orfodi i ymwneud â'r llinell cyffuriau ei ddiogelu gan Heddlu De Cymru.
Cafodd Ryan Greening, 32 oed, Daniel Laity, 32 oed, ac Adam Hartery, 31 oed eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên a chawsant eu dedfrydu i gyfanswm o 11 mlynedd a naw mis.
Carcharwyd Ryan Greening am chwe blynedd, carcharwyd Adam Hartery am dair blynedd a chwe mis, a charcharwyd Laity am ddwy flynedd a thri mis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Bathan Williams: “Roedd y grŵp hwn yn cyflenwi cocên i'w gwsmeriaid ei hun a hefyd yn cyflenwi cyffuriau i weithredwyr llinellau cyffuriau eraill, a oedd yn golygu ei fod yn gyflenwr sylweddol yn yr ardal.
“Diolch i waith rhagorol ein harbenigwyr ar ddata fforenseg, llwyddwyd i nodi eu rolau yn yr ymgyrch ac yn bwysicach fyth, i nodi bod y grŵp yn dylanwadu ar fachgen 17 oed agored i niwed ac yn ei orfodi i weithredu ar ei ran.”