Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae siopleidr a gafodd ei ddal gan ddau o'n Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu wedi cael ei garcharu.
Roedd Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu Grace Looker a Grace Hayman ar batrolau cerdded ger Tesco yn Llaneirwg, Caerdydd, pan welsant ddyn yr oedden nhw'n amau oedd wedi cyflawni siopladrad ym maes parcio'r archfarchnad.
Ar ôl cynnal gwiriadau gyda'r ystafell reoli, cadarnhawyd bod yr heddlu eisiau siarad â'r unigolyn dan amheuaeth mewn cysylltiad â chwe throsedd siopladrad.
Rhedodd y dyn i ffwrdd, ond aeth y ddau swyddog ar ei ôl nes iddynt ddod o hyd iddo'n cuddio yn y coed a'r llwyni gyferbyn ag Ysgol Gynradd Oakfield ar 23 Ionawr.
Ymddangosodd Abdi Faatax, 41 oed o Llaneirwg, gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun 23 Mawrth.
Yn dilyn euogfarn am chwe achos o ladrata o Boots yn Rhodfa Countisbury, fe'i carcharwyd am 24 wythnos. Mae hefyd wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol am ddwy flynedd.
Yn rhan o'r gorchymyn, rhaid iddo beidio â mynd i mewn i Boots yn Rhodfa Countisbury.
Mae torri'r gorchymyn yn drosedd a gall unrhyw un sy’n gwneud hynny wynebu cosb o garchar neu ddirwy.
Dyma'r llwyddiant diweddaraf yn dilyn dull gweithredu ehangach newydd o fynd i'r afael â dwyn o siopau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan heddlu Caerdydd a'r Fro.
Dylid rhoi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau ac achosion o dorri gorchmynion.
💻Cysylltwch â ni ar-lein drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📞Ffoniwch 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.