Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pedwar o ddynion wedi cael eu carcharu ar ôl cael eu dal yn gwerthu cyffuriau o ddosbarth A ar strydoedd Abertawe.
Daliodd swyddogion mewn dillad plaen o’r Tîm Troseddau Cyfundrefnol Barry Iylett, 58 oed o Cheshunt, Swydd Hertford, pan oedd yng nghanol delio cyffuriau yn ardal St. Thomas ar y 9fed o Fedi'r llynedd. Wrth ymchwilio, gwelodd swyddogion yn gyflym bod Iylett yn gysylltiedig â llinell gyffuriau ‘Marlow’ a’i fod wedi bod yn aros mewn AirBnB.
Pan aeth swyddogion i’r AirBnB, gwelsant dri dyn arall yn dianc oddi yno gyda bagiau o ddillad, ac yn mynd i mewn i dacsi a aeth â nhw i orsaf drenau Abertawe. Daliwyd y tri ohonynt.
Cafodd Joseph Bilcough, 46 oed o Bishops Stortford, Swydd Hertford, ei ddal gyda ffôn symudol yn ei feddiant a oedd wedi cael ei ddefnyddio i anfon swmp o negeseuon testun i gwsmeriaid yn cynnig cyflenwi heroin a chrac cocên. Roedd y ffôn yn gysylltiedig â’r llinell ‘Marlow’.
Roedd Finlay Price-Smallman, 24 o Hertford, Swydd Hertford, ac Andrew Avraam, 23 oed, yn y tacsi hefyd.
Ar y 23ain o Ionawr, dedfrydwyd Barry Iylett a Joseph Bilcough i dair blynedd o garchar ar ôl iddynt bledio’n euog i ymwneud â chyflenwi cocên a heroin; plediodd Iylett yn euog i fod â heroin yn ei feddiant hefyd.
Mae Finlay Price-Smallman wedi cael dedfryd o 31 mis o garchar ar ôl pledio’n euog i ymwneud â chyflenwi cocên a heroin a bod â resin canabis yn ei feddiant. Mae Andrew Avraam wedi cael dedfryd o 27 mis o garchar ar ôl iddo yntau bledio’n euog i ymwneud â chyflenwi cocên a heroin.
Meddai Rhingyll Luke Tucker:
“Trwy waith ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru a’r Heddlu Metropolitanaidd, roedd swyddogion yn gallu dangos tystiolaeth bod y pedwar dyn yn gweithio gyda’i gilydd a’u bod wedi bod yn teithio o Loegr i gyflenwi heroin a chrac cocên ar strydoedd Abertawe, gan alw eu llinell gyffuriau yn llinell ‘Marlow’.
“Mae Abertawe a’r gymuned ehangach yn well eu byd yn awr bod y dynion yma wedi cael eu hanfon i’r carchar.”
Mae ymdrin â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i ddal troseddwyr er mwyn amddiffyn cymunedau rhag niwed.
Os ydych chi’n amau bod delio cyffuriau’n digwydd neu’n pryderu efallai bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, dywedwch wrthym ni. Does dim rhaid i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101 neu os oes well gennych chi gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw - ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os yw rhywun mewn perygl ar unwaith neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.