Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae rhaglen amlasiantaethol i fynd i'r afael â materion hirdymor sy'n gysylltiedig â throseddau cyfundrefnol difrifol mewn ardal yn Abertawe bellach wedi dechrau.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe wedi lansio prosiect Clirio, Dal, Adeiladu Dyfaty, gan weithio o dan y teitl Adeiladu Dyfaty Gwell. Cynhaliwyd y digwyddiad lansio yr wythnos diwethaf yn Tramshed Tech yn hen Theatr y Palace ar y Stryd Fawr; mae'r adeilad wedi'i leoli yn ardal y prosiect.

Mae'r dull yn adeiladu ar weithgarwch Clirio, Dal, Adeiladu llwyddiannus a mewn mannau eraill yn ardal Heddlu De Cymru, gan gynnwys Merthyr Tudful, Adamsdown, y Rhath a Butetown.
Mae Clirio, Dal, Adeiladu yn ddull cydnabyddedig o darfu ar droseddau cyfundrefnol difrifol a'u lleihau, gan helpu cymunedau i adfer mannau cyhoeddus, meithrin gwydnwch a chreu cymdogaethau mwy diogel yn y pen draw. Mae'r rhaglen yn dilyn model Clirio, Dal, Adeiladu y Swyddfa Gartref ac yn cyfuno gweithgarwch gorfodi cydlynol, gwaith sefydlogi cymunedau a datblygiad cymdeithasol, economaidd a chymunedol tymor hwy.
Mae'r cam Clirio yn cael ei arwain gan Heddlu De Cymru ac yn canolbwyntio ar weithgarwch gorfodi, tarfu a diogelu gweladwy i gael gwared ar ddylanwad troseddau cyfundrefnol difrifol yn Nyfaty a'r cyffiniau. Disgwylir i'r cam hwn bara tua 12 mis.
Bydd y cam Dal yn cael ei arwain gan Gyngor Abertawe, gan weithio gyda holl bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Disgwylir iddo ddechrau ochr yn ochr â'r cam Clirio a phara rhwng chwech a 18 mis, gan ganolbwyntio ar gynnal enillion o ran diogelwch, atal troseddwyr rhag dychwelyd ac atgyfnerthu hyder cymunedau drwy bresenoldeb partneriaeth barhaus.
Bydd y cam Adeiladu yn dechrau yn ystod y cam Dal ac yn parhau dros y tymor hwy. Bydd yn canolbwyntio ar fuddsoddi yn Nyfaty i fynd i'r afael â gwendidau sylfaenol, cefnogi twf economaidd a helpu i greu cymunedau gwydn.


Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd, Stephen Jones:
“Mae ardal Dyfaty, gan gynnwys Stryd Fawr y Gogledd a'r blociau preswyl uchel iawn cyfagos, wedi wynebu materion hirdymor sy'n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau cyfundrefnol difrifol. Mae'r cam cyntaf hwn yn canolbwyntio ar gael gwared ar y dylanwad troseddol hwnnw, diogelu pobl agored i niwed a sefydlogi'r gymdogaeth. Mae'n dibynnu ar gamau gweithredu amlasiantaethol cydlynol, gweledol iawn a pharhaus.
"Mae'r gwaith hwn yn hir-ddisgwyliedig i'r bobl sy'n byw yn Nyfaty. Nid oes gan y mwyafrif helaeth unrhyw gysylltiad â throseddau cyfundrefnol difrifol ond maent yn wynebau eu heffaith bob dydd. Nod y rhaglen hon yw sicrhau newid gwirioneddol a helpu i wneud Dyfaty yn lle y gall pobl ymfalchïo ynddo.”
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart:
“Rydym yn gwbl ymrwymedig i weithio ochr yn ochr â thrigolion, gan wrando ar eu pryderon a'u helpu i lywio dyfodol eu cymuned. Ochr yn ochr â hyn, mae'r cyngor wedi sicrhau buddsoddiad pwysig gan Lywodraeth y DU drwy raglen Balchder Bro, a fydd yn cynnig hyd at £20 miliwn dros y degawd nesaf er mwyn helpu i drawsnewid y rhan hon o'r ddinas.
"Bydd rhaglen Adeiladu Dyfaty Gwell yn helpu i sefydlogi a glanhau'r ardal, a bydd Balchder Bro yn cefnogi gwaith adfywio tymor hwy. Mae'r ddwy raglen wedi'u dylunio i ategu ei gilydd”.
Mae aelodau eraill o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Chyd-ddirprwy Arweinydd y Cyngor, Andrea Harrington:
“Mae Dyfaty yn cynnwys cymunedau amrywiol, ac mae pob un ohonynt yn wynebu heriau gwahanol. Dyma brif brosiect y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae pob partner yn canolbwyntio ar ddeall yr hyn sy'n bwysig i bobl leol a gweithio gyda thrigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i sicrhau newid cadarnhaol i'r ardal a'r bobl sy'n byw yno.”
