Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl cael ei gael yn euog o dreisio bachgen ac ymosod arno'n rhywiol yn y gorffennol.
Gwnaeth Mark Hawkes, 39 oed heb gartref sefydlog, ymosod ar y dioddefwr yng nghartref y plentyn yn ardal Castell-nedd.
Yr wythnos yma, cafwyd Hawkes yn euog o un achos o dreisio a dau achos o ymosod ar fachgen o dan 13 oed drwy gyffwrdd. Cyflawnwyd y troseddau hyn yn erbyn yr un dioddefwr.
Mae wedi cael ei ddedfrydu heddiw i 16 blynedd yn y carchar..
Dywedodd Amy Cooney, Ymchwilydd Diogelu Pobl sy'n Agored i Niwed:
“Hoffwn ddiolch i'r dioddefwr yn yr achos hwn am roi gwybod i'r heddlu ac am fod yn ddewr ac ymddwyn yn urddasol drwy gydol yr ymchwiliad hir yma. Diolch iddo fe, rydym wedi gallu euogfarnu dyn sydd, yn amlwg, yn fygythiad mawr i blant.
"Yn ystod yr achos llys, ni ddangosodd Mark Hawkes unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd.
"Dywedodd y dioddefwr wrth y llys ei fod wedi cysylltu â'r heddlu er mwyn gallu symud ymlaen, fel y byddai fe’n rhydd o'r artaith feddyliol yr oedd wedi'i phrofi o ganlyniad i gael ei gam-drin gan Mark Hawkes. Gobeithio y bydd e'n gallu symud ymlaen gyda'i fywyd yn awr."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.