Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo daro cyn-arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i lawr a'i ladd pan oedd dan ddylanwad cyffuriau.
Gwnaeth Zack Mason, 22 oed o Sandfields daro Thomas Crowley – a oedd yn cael ei adnabod fel Noel – 85 oed, â'i gerbyd wrth i Crowley groesi Water Street ym Mhort Talbot ar 7 Rhagfyr 2024. Bu farw Crowley yn yr ysbyty dridiau yn ddiweddarach.
Cafodd Mason ei arestio yn y fan a'r lle a rhoddodd sampl poer positif i gyffuriau a reolir. Profodd 2.3 microgram o Delta-9-Tetrahydrocanabinol mewn 1 litr o waed
Plediodd Mason yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru heb ofal wrth fod dros y terfyn rhagnodedig, ac achosi marwolaeth drwy yrru cerbyd heb drwydded nac yswiriant. Cafodd trwydded dros dro Mason ei dirymu yn 2022 ar ôl iddo gael ei ddal yn gyrru heb yswiriant.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
Mae hefyd wedi cael ei wahardd rhag gyrru am saith mlynedd ac mae'n rhaid iddo basio prawf estynedig cyn cael trwydded.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Luis Tobenas:
“Penderfynodd Zack Mason yrru heb yswiriant, heb drwydded ac ar ôl iddo gymryd canabis i lefel a oedd dros y terfyn cyfreithlon ar gyfer gyrru. O ganlyniad i hyn, lladdodd Noel Crowley, ac mae ei deulu a'r gymuned ehangach wedi'u llorio'n llwyr.
“Bydd yn rhaid i Mason fyw gyda'r hyn y mae wedi'i wneud am weddill ei oes.
“Rydym yn parhau i feddwl am deulu Mr. Crowley ac rydym yn gobeithio y bydd y rheithfarn hon yn rhoi rhywfaint o gysur iddynt.”