Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo bledio'n euog i droseddau rhyw yn erbyn plant.
Defnyddiodd Jamie Davies, 34 oed o Bort Talbot, safle cyfryngau cymdeithasol Snapchat i gynnig coginio bwyd i'w ddioddefwr 14 oed yn gyfnewid am wylio’r bachgen yn cyflawni gweithred rywiol o'i flaen.
Gwnaeth Davies dynnu llun o’i bidyn a’i anfon at y plentyn hefyd.
Plediodd Davies yn euog i achosi/annog bachgen rhwng 13 a 15 oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, tri achos o fod â llun anweddus o blentyn yn ei feddiant ac un achos o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn.
Mae Davies wedi cael ei ddedfrydu i 28 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Kristian Burt:
"Mae Jamie Davies yn unigolyn rheibus a oedd yn hollol ymwybodol o oedran y bachgen yr oedd yn anfon negeseuon rhywiol ato. Mae'n llawn haeddu ei gyfnod yn y carchar.
"Bydd hyn gobeithio yn rhybudd na chaiff ymddygiad rheibus o'r fath ei oddef, a bod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus wrth amddiffyn ein plant."
Rydym yn cydnabod dewrder anhygoel goroeswyr cam-drin rhywiol wrth roi gwybod am eu profiadau. Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i sicrhau y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac yn eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Mae adnoddau a gwasanaethau cymorth ar gael i'r rheini sy'n dioddef mewn tawelwch, neu'r rheini sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ond nad ydynt yn barod eto i roi gwybod amdano i'r heddlu. Ceir rhagor o wybodaeth yn Gwasanaethau Cymorth Heddlu De Cymru.