Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu wedi iddo herwgydio plentyn ac ymosod yn rhywiol ar dri phlentyn arall, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Mae Kai Giggie, 26 oed, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Kyle Wellburn ac yn wreiddiol o Aberdeen, wedi cael ei ddedfrydu heddiw (dydd Gwener 30 Ionawr) yn Llys y Goron Casnewydd i dair blynedd yn y carchar, wedi iddo bledio'n euog i herwgydio plentyn, gweithgarwch rhywiol â phlentyn a dau achos o ymosod yn rhywiol ar blentyn. Nodwyd bod y digwyddiadau wedi digwydd rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf 2025.
Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, mae'n destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol (SHPO) deg mlynedd o hyd a gorchymyn atal deg mlynedd o hyd.
Canfu'r ymchwiliad fod Giggie wedi bod yn esgus bod yn blentyn yn ei arddegau rhwng 13-16 oed mewn gofal maeth a oedd wedi dianc o leoliadau camdriniol yn yr Alban. Daeth swyddogion yn ymwybodol ohono wedi i oedolyn fynegi pryderon am ffrind ei blentyn yr oedd yn ymddangos nad oedd yng ngofal unrhyw oedolion.
Roedd Giggie wedi bod yn defnyddio ei fanylion adnabod ffug i feithrin perthynas amhriodol â phlant lleol, gan feithrin cyfeillgarwch â nhw cyn ymosod arnynt yn rhywiol. Aeth Giggie ag un o'r plant i Lundain heb roi gwybod i'w deulu.
Dywedodd DC Julia Page, a arweiniodd yr ymchwiliad manwl a diwyd:
"Yn fy holl yrfa mewn plismona, nid wyf erioed wedi dod ar draws unigolyn mor gyfrwys a fyddai'n mynd mor bell ag y gwnaeth Giggie i ennyn ymddiriedaeth ei ddioddefwyr a'u teuluoedd.
“Cymerodd fantais pan roedd ei ddioddefwyr ar eu mwyaf bregus o safbwynt oedran, a defnyddiodd hyn i'w dominyddu er ei les ei hun. Hoffwn ganmol y dioddefwyr yn yr achos hwn am eu hamynedd, dewrder a gwroldeb tra roedd yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen. Gall yr ymchwiliadau hyn gymryd amser, ond rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn dod â rhywfaint o ddiweddglo iddo.
"Mae Giggie yn risg sylweddol i blant, ac rydym yn credu y gall fod wedi troseddu yn erbyn rhagor o blant. Byddem yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol a heb roi gwybod amdano, am ba reswm bynnag, i gysylltu â ni. Byddwn yn gwrando arnoch.”