Stamp amser presennol: 23/06/26 09:45:02
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Heddlu yn cefnogi amnest arfau tanio cenedlaethol

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 09:00 28/01/2026

Mae gynnau tanio ergydion gwag yn arfau tanio ffug sy'n aml yn cael eu defnyddio'n ddiniwed am nifer o resymau, gan gynnwys fel propiau mewn cynyrchiadau ffilm a theatr ac fel ergydion cychwyn i ddechrau rasys.

Fodd bynnag, mae troseddwyr yn troi arfau tanio ergydion gwag fel arfau tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top/ochr i danio bwledi a chetris byw neu fwledi a chetris sydd wedi'u haddasu. Y mis hwn, rydym yn cefnogi amnest pedair wythnos cenedlaethol a gydlynir gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Balisteg Cenedlaethol (NABIS) a'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).

Caiff yr amnest ei gynnal rhwng dydd Llun 2 Chwefror a dydd Gwener 27 Chwefror a'i ddiben yw tynnu arfau tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top/ochr (TVBF) er mwyn eu hatal rhag mynd i'r dwylo anghywir a chael eu troi i'w defnyddio mewn modd troseddol.

Caiff yr arfau tanio hyn eu gwneud yn yr Eidal gan BRUNI ac maent wedi cael eu dosbarthu fel rhai y gellir eu troi yn hawdd i arfau tanio, ac felly mae bellach yn anghyfreithlon bod yn berchen arnynt.

Y modelau yr effeithir arnynt yw:

  • Pistol hunan-lwytho tanio ergydion gwag 8mm Model 92
  • Pistol hunan-lwytho tanio ergydion gwag 8mm New Police
  • Pistol hunan-lwytho tanio ergydion gwag 8mm Model 96
  • Pistol hunan-lwytho tanio ergydion gwag 8mm Model 'GAP'
  • .380R (9mmK) rifolfer gweithred sengl tanio ergydion gwag ME Ranger

BRUNI blank firearms.jpg

Dros y pedair wythnos nesaf, byddwn yn annog pobl ar draws ein cymunedau i drosglwyddo unrhyw arfau mewn gorsaf heddlu leol.

Er y gellir cyflwyno arfau tanio ac arfau eraill i'r heddlu unrhyw bryd, diben y misoedd ildio fel hyn yw codi ymwybyddiaeth o droseddau drylliau a'r rhan y gall y cyhoedd ei chwarae wrth helpu i gadw de Cymru yn ddiogel.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Saunders, arweinydd troseddau drylliau Heddlu De Cymru:

"Mae'n hollbwysig ein bod yn ymgysylltu â'n cymunedau drwy'r amnest hwn i gymryd yr arfau tanio ergydion gwag hyn oddi ar ein strydoedd.

"Mae'r modelau dan sylw a gydnabyddir gan NABIS yn rhai y gellir eu trawsnewid, a gall hyn wrth gwrs arwain at ganlyniadau angheuol os byddant yn mynd i ddwylo'r rheini sydd am eu haddasu at ddibenion troseddol.

"Rydym yn gwbl ymwybodol y gall yr arfau tanio ergydion gwag hyn fod ym meddiant pobl ddiniwed nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn anghyfreithlon, ac felly rydym yn cymryd rhan yn yr amnest hwn ac yn rhoi cyfle i bobl ar draws ein cymunedau eu cyflwyno i ni heb gosb.

“Baswn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw un o'r modelau dan sylw yn ei feddiant i wneud y peth iawn a manteisio ar y cyfle hwn. Drwy gyflwyno eu harfau tanio wrth y cownter blaen yn un o'r gorsafoedd heddlu dynodedig hynny, byddant yn ein helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel."

Caiff yr amnest arfau tanio ei gynnal rhwng 2 Chwefror a 27 Chwefror ac anogir unrhyw un sydd ag arf tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top yn ei feddiant i fynd i unrhyw un o'r gorsafoedd canlynol i'w gyflwyno:

  • Castell-nedd
  • Canol Abertawe
  • Bae Caerdydd
  • Y Barri
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Merthyr Tudful
  • Pontypridd

Dod o hyd i orsaf heddlu | Heddlu De Cymru

Ateb eich cwestiynau

Ai yn ystod mis Chwefror yn unig y gallaf ildio arf?

Na. Gellir mynd ag unrhyw arf i orsaf heddlu unrhyw bryd. Diben y cyfnodau ildio hyn yw talu sylw i beryglon troseddau drylliau a thynnu sylw at y ffyrdd cywir o'u gwaredu.

Alla i fynd i'r orsaf heddlu yn cario gwn? Beth os caf fy stopio ar y ffordd?

Dylai unrhyw un fydd yn cael ei stopio ar ei ffordd i orsaf heddlu yn cario gwn i'w ildio roi gwybod i'r swyddog fod ganddo wn yn ei feddiant ac esbonio ei fod am ei ildio. Bydd swyddogion yn ymwybodol o'r cyfnod ildio a gallai'r person ildio'r arf tanio i'r swyddog hwnnw.

Mae gennyf arf tanio i'w ildio, ond nid wyf am ei gludo neu ni allaf ei gludo i orsaf heddlu. Beth y dylwn i ei wneud?

Dylai unrhyw un sydd am ildio ond na all fynd i orsaf heddlu neu sy'n pryderu am gludo arf tanio neu fwledi a chetris gysylltu â'n hystafell reoli i gael cyngor pellach. Gwybodaeth am sut i gysylltu â ni.

Ai dim ond gynnau y gellir eu hildio yn ystod y cyfnod ildio?

Na. Tra bod y cyfnod ildio yn canolbwyntio ar droseddau drylliau, byddem yn annog unrhyw un sydd ag arf tanio neu arf posibl (ee. cyllyll cegin nad yw eu hangen mwyach) i ddod â nhw i mewn i unrhyw un o'r gorsafoedd penodol i'w waredu'n ddiogel.

Os byddaf yn cyflwyno arf tanio, ydw i'n cael fy ngwarchod gan unrhyw ganlyniadau pe bai'r arf hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn trosedd?

Bydd unrhyw un fydd yn ildio arf tanio neu unrhyw arf arall yn cael imiwnedd ar gyfer bod â'r arf yn ei feddiant ar adeg ildio. Bydd swyddogion ymholiadau gorsaf yn gofyn cwestiynau er mwyn cwblhau'r ffurflen ildio arf tanio. Fodd bynnag nid oes rhwymedigaeth i ateb y cwestiynau a gall yr unigolyn fydd yn ildio ddewis ei ildio'n ddienw.

Fodd bynnag, mae dyletswydd ar Heddlu De Cymru i ymchwilio i hanes yr arf tanio er mwyn nodi a yw'n gysylltiedig â throsedd ac i ddwyn y rheini sy'n rhan o hyn i gyfrif.

Sut y dylwn i gludo'r arf tanio?

Dylech wneud taith benodol ac uniongyrchol i'r orsaf heddlu yn ystod oriau agor yr amnest i leihau'r amser y byddwch yn cludo'r eitem yn gyhoeddus a sicrhewch fod yr arf tanio wedi'i lapio a'i guddio, a bod yr arf wedi'i ddiogelu er mwyn osgoi codi ofn ar y cyhoedd.

A allaf gael fy erlyn am drosglwyddo un o'r modelau hyn?

Ni fyddwch yn wynebu erlyniad os byddwch yn cyflwyno un o'r modelau a restrir uchod yn ystod y cyfnod amnest a gallwch ddewis gwneud hyn yn ddienw.

Fodd bynnag, gallai meddu ar TVBF y gellir ei drawsnewid yn hawdd ar ôl y cyfnod amnest arwain at erlyniad.

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.