Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Macauley Cotterill, 28 oed o Drelái, wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd ac wyth mis yn y carchar ar ôl iddo gael ei euogfarnu o droseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Cafodd Cotterill ei ddedfrydu ddydd Gwener 9 Ionawr yn Llys y Goron Merthyr Tudful, lle plediodd yn euog i fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o’i gyflenwi a chaffael/defnyddio eiddo troseddol.
Dechreuodd yr achos ddydd Sadwrn 29 Tachwedd 2025 pan arestiwyd dyn arall oedd yn cael negeseuon gan rif ffôn symudol yn cynnig gwerthu cocên. Yn dilyn ymholiadau, nodwyd bod y rhif ffôn symudol yn perthyn i Cotterill.
Aeth swyddogion i gyfeiriad yn Nhrefforest ddydd Iau 11 Rhagfyr, lle gwnaethant ddal ac arestio Cotterill. Cafodd Cotterill ei arestio gan fod tystiolaeth o lawrlwythiadau ar ffonau symudol yn dangos ei fod yn rhedeg llinell gyffuriau a oedd yn cyflenwi cocên yn ardal Pontypridd.
Wedi i swyddogion chwilio'r eiddo, daethant o hyd i £3,650 mewn arian parod, sawl pecyn yn cynnwys powdr gwyn, clorian, a dau ffôn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Jones o dîm Uned Reoli Weithredol Morgannwg Ganol:
“Dylai unrhyw un sy'n ymwneud â chynhyrchu a chyflenwi cyffuriau Dosbarth A wybod nad yw'r fasnach anghyfreithlon hon yn talu. Bydd yr hyn rydych yn credu y bydd yn gwneud arian hawdd i chi yn eich arwain at y carchar yn lle hynny.
"Mae'r ddedfryd hon yn dangos gwaith anhygoel ein swyddogion i dynnu cyffuriau oddi ar strydoedd Pontypridd. Mae'r gwaith hwn yn aml yn gofyn am amynedd a dyfalbarhad, ond byddwn yn gwneud popeth sydd ei angen i sicrhau bod y rhai sy'n delio cyffuriau yn cael eu harestio a'u dwyn o flaen eu gwell.”