Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dydd Mawrth oedd Diwrnod Cofio'r Holocost, achlysur pan ddaeth cydweithwyr o Heddlu De Cymru ynghyd i gofio am y rhai a gafodd eu lladd yn ystod yr Holocost, grwpiau eraill a gafodd eu herlid gan y Natsïaid a'r hil-laddiadau yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
I gydnabod y digwyddiad a dangos undod ag ef, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ystod y bore, gwahoddwyd cydweithwyr i ychwanegu eu holion bysedd i arddangosfa goffa yn amlinellu Fflam Goffa'r Holocost.

Yn y prynhawn, arweiniodd Caplan Heddlu De Cymru, y Parchedig Robert Coyne, a'r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan gyfnod byr o fyfyrdod cyn cynnal dwy funud o dawelwch gyda chydweithwyr er cof am ddioddefwyr hil-laddiad.

I gloi'r trefniadau, cynhaliwyd munud o gofio o dan y Geiriosen Goffa o flaen adeilad y Pencadlys.
Fel arwydd o goffáu a chydymdeimlad, goleuwyd Pencadlys ein lluoedd mewn porffor o ddydd Gwener, Ionawr 23 i ddydd Mawrth, Ionawr 27.

Ceir rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Cofio'r Holocost ar wefan Diwrnod Cofio'r Holocost.
Ar achlysur o'r fath, cawn ein hatgoffa nad yw troseddau casineb byth yn dderbyniol. Os byddwch yn wynebu trosedd casineb ac yn dymuno rhoi gwybod i ni, gallwch wneud hynny yma.