Stamp amser presennol: 23/06/26 10:45:37
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carcharu gang delio cyffuriau o Gaerdydd am fwy na 45 o flynyddoedd

Cynnwys y prif erthygl

Caerdydd/Bro Morgannwg Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 15:55 23/01/2026
Op Sittella jailed.jpg

O'r chwith uchaf clocwedd: Ricardo Brown, Dylan Stranger, Adam Lewis, Ieuan Coombes, Jaydon Watkins, Levi Robson, Thomas Haysham, Sam Hatton.

 

Mae naw person wedi cael eu carcharu am fwy na 45 o flynyddoedd am eu rhan mewn rhwydwaith cyffuriau mawr a oedd yn gweithredu o Drelái, Caerdydd.

Cawsant eu harestio yn dilyn ymchwiliad gan Uned Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro, o Heddlu De Cymru, fel rhan o Ymgyrch Sittella.

Roedd y grŵp – dan arweiniad Ricardo Brown – yn rhedeg llinell gyffuriau 'MJ' a oedd yn recriwtio pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc fel rhedwyr, yn aml yn reidio e-feiciau i ddosbarthu cyffuriau a chasglu arian.

Casglodd swyddogion dystiolaeth helaeth, gan gynnwys fideos a ffotograffau o aelodau'r grŵp yn 'coginio' crac cocên, yn pwyso cyffuriau ac yn gafael mewn symiau mawr o arian.

lamborghini pic.jpg

Roedd un ddelwedd, a gymerwyd o'r cyfryngau cymdeithasol, yn dangos tri aelod o'r grŵp - Brown, Levi Robson, a Jaydon Watkins - yn eistedd mewn Lamborghini wedi'i rentu.

Dangosodd delweddau pellach fod Brown yn cynhyrchu symiau enfawr o arian ac yn byw bywyd afradlon.

Yn sgil ymchwiliad trylwyr a'r dystiolaeth aruthrol, plediodd y naw aelod yn euog i nifer o droseddau cyffuriau.

Pan gawsant eu harestio ym mis Rhagfyr 2024, daeth llinell cyffuriau MJ, y tybir ei bod wedi bod yn gweithredu ers 2020 yn bennaf yng Nghaerdydd, ond hefyd mewn ardaloedd eraill yn Ne Cymru, i ben.

Cafodd Ricardo Brown a'i gyd-droseddwyr eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, 21 Ionawr a dydd Gwener, 22 Ionawr.

Clywodd y llys am farwolaeth defnyddiwr cyffuriau amhrofiadol y gellid ei phriodoli'n uniongyrchol i linell MJ.

Ym mis Mehefin 2020, cysylltodd cwsmer, nad oedd wedi defnyddio heroin o'r blaen, â llinell MJ a phrynodd heroin. Bu farw o fewn 48 awr, a nodwyd mai achos ei marwolaeth oedd 'gwenyndra cyffuriau cymysg, gan gynnwys heroin.'

 Cafodd y grŵp ei ddedfrydu fel a ganlyn:

  • Ricardo Brown, 26 oed, o Butetown, oedd arweinydd y grŵp troseddau cyfundrefnol am bedair blynedd. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a chafodd ei garcharu am 12 mlynedd a phum mis.
  • Plediodd Dylan Stranger, 25 oed, o'r Barri, a fu'n gweithio'n agos gyda Brown, yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a chynllwynio ag eraill i ymwneud â chyflenwi cyffur Dosbarth B, a chafodd ei garcharu am saith mlynedd a naw mis.
  • Plediodd Jaydon Watkins, o Drelái, a oedd yn gweithredu llinell cyflenwi canabis a oedd yn gysylltiedig â'r grŵp, yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a chynllwynio ag eraill i ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth B. Tair blynedd.
  • Roedd Sam Hatton, 18 oed, o Drelái, yn rhedwr ac yn ddeliwr ar y stryd i'r grŵp. Gwahanodd o linell MJ i sefydlu ei linell gyffuriau ei hun a phlediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A, cynllwynio ag eraill i ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth B, ac ymwneud â chyflenwi cocên. Cafodd ei garcharu am bum mlynedd.
  • Bu Levi Robson, 24 oed, o Drelái, yn rheoli cyflenwad cyffuriau ac yn cyfarwyddo rhedwyr. Plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a chafodd ei garcharu am dair blynedd a chwe mis.
  • Cafodd Ieuan Coombes, 21 oed, o Drelái, a oedd yn ymwneud â dosbarthu cyffuriau tu hwnt i Gaerdydd ac a blediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A ac ymwneud â chyflenwi cocên, ei garcharu am dair blynedd ac wyth mis.
  • Bu Lewis Adams, 27 oed, o'r Barri, yn cyflenwi symiau cyfanwerthol o gocên ac yn cefnogi'r gadwyn gyflenwi ehangach - plediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a chafodd ei garcharu am bedair blynedd a phum mis.
  • Plediodd Thomas Haysham, 25 oed, o'r Barri, yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a chynllwynio ag eraill i ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth B a chafodd ei garcharu am bum mlynedd a deg mis.
  • Cafodd Stacey Cassemis, 37 oed o Drelái, a wnaeth ganiatáu i'r grŵp ddefnyddio ei chartref, lle ddaeth swyddogion o hyd i floc cilogram o gocên, fel safle i baratoi a choginio crac cocên, ddedfryd ohiriedig o ddwy flynedd o garchar.

Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, Ditectif Prif Arolygydd Tim Jones, o Heddlu De Cymru:

"Roedd hon yn ymgyrch droseddol hynod gyfundrefnol ag arweinyddiaeth glir a rolau y'i diffiniwyd, wedi'i hysgogi'n llwyr gan elw heb unrhyw ystyriaeth i'r niwed a achoswyd i eraill.
“Roedd Ricardo Brown a'i gyd-droseddwyr yn gyfrifol am gyflenwi symiau sylweddol o gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B.
“Yr hyn sy'n gwneud eu troseddau hyd yn oed yn waeth yw'r ffaith iddynt gamfanteisio ar blant – ni wnaethant feddwl ddwywaith am eu rhoi mewn perygl a pheri risg ddifrifol iddynt, a hynny oherwydd eu barusrwydd a'u helw eu hunain.
“Y realiti trist yw bod achosion lle mae gangiau cyffuriau yn camfanteisio ar blant ifanc yn gyffredin – bydd delwyr yn canfod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ac yn eu rhoi mewn perygl wrth iddyn nhw redeg pethau yn y cefndir.
“Mae hyn yn digwydd heddiw, mewn cymunedau ledled De Cymru, ac mae cyfrifoldeb a rhwymedigaeth foesol ar bob un ohonom i chwilio am arwyddion o gamfanteisio a gweithredu yn eu cylch.
“Drwy wneud hynny, rydym yn carcharu'r delwyr a hefyd yn achub ac yn diogelu plant sydd, am ba reswm bynnag, wedi cael eu dal mewn bywyd truenus a pheryglus yn nwylo troseddwyr.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.