Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall gyrwyr dynodedig ledled ardal ein heddlu unwaith eto gael diodydd meddal am ddim neu am bris gostyngol mewn lleoliadau penodol fel rhan o'n cynllun DES.
Mae'r fenter hon, sy'n rhedeg dros gyfnod y Nadolig fel arfer, yn cael ei hail-lansio ar gyfer gemau'r Chwe Gwlad a bydd 30 o safleoedd ledled de Cymru yn cymryd rhan ynddi.
Felly, os mai chi yw'r gyrrwr dynodedig ar gyfer mynd allan i wylio un o gemau'r Chwe Gwlad, byddwn ni a'n partneriaid mewn lleoliadau penodol yn gofalu amdanoch.

Beth yw gyrrwr dynodedig a sut mae cynllun DES yn gweithio?
Gyrrwr dynodedig yw rhywun sy'n ymwrthod ag yfed alcohol er mwyn bod yn yrrwr cyfrifol.
Nod cynllun DES yw hyrwyddo yfed yn gyfrifol gan ystyried diogelwch ar y ffyrdd.
Bydd cwsmeriaid sy'n rhoi gwybod i staff bar eu bod yn yrwyr dynodedig – neu'n ‘DES’ – yn cael band arddwrn, a fydd yn eu galluogi i gael diodydd meddal drafft am ddim neu ddiod ffrwythau.
Bydd safleoedd trwyddedig unigol yn penderfynu a yw'r cynnig hwn ar gael drwy'r nos, neu am nifer penodol o ddiodydd, gan mai nhw sy'n talu'r costau. Mae Heddlu De Cymru yn darparu posteri a bandiau garddwrn i hysbysebu'r cynllun.
Gwyddom y gall bod yn yrrwr dynodedig fod yn faich weithiau, ond rydym yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn annog mwy o bobl i fod yn ymwybodol o ganlyniadau difrifol yfed a gyrru a phwysigrwydd bod yn ddiogel ar y ffyrdd.
Cofio
Nid oes unrhyw ffordd o wybod faint y gallwch ei yfed ac aros o dan y terfyn, gan fod hynny'n gallu dibynnu ar eich pwysau, eich oedran, eich metaboledd, y bwyd rydych wedi ei fwyta a ffactorau eraill.
Mae'n amhosibl cael alcohol allan o'ch system yn gyflym, mae bob amser yn cymryd amser. Gall cawod, cwpanaid o goffi neu ffyrdd eraill o 'sobri' wella sut efallai rydych chi'n teimlo ond ni fyddant yn gwaredu'r alcohol o'ch system.
Os ydych wedi bod allan yn yfed, mae'n bosibl y bydd alcohol yn dal i effeithio arnoch y diwrnod canlynol a gallech golli eich trwydded os byddwch yn gyrru a'ch bod dros y terfyn cyfreithiol o hyd.
Y risg fwyaf rydych yn ei chymryd wrth yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yw'r risg o achosi gwrthdrawiad.
Mae gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn beryglus iawn a gall effeithio ar eich gallu i yrru mewn sawl ffordd.
Gall alcohol a chyffuriau hefyd feithrin hyder anwir a all arwain at gynnydd mewn ymddygiad cymryd risg, sy'n rhoi eich bywyd chi a bywydau eraill mewn perygl.
Cymryd Rhan
Os ydych yn safle trwyddedig sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o'r cynllun, cysylltwch â'ch tîm trwyddedu lleol.
Gellir gweld rhestr lawn o'r safleoedd trwyddedig sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun isod:
Caerdydd
Coyote Ugly Caerdydd, 78-80 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1FA
Temple Bar Caerdydd, 6 Heol Fawr, Caerdydd, CF10 1AW
The Philharmonic, 76-77 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1FA
Brewhouse, 49 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1AD
Bluebell, 33 Heol Fawr, Caerdydd, CF10 1PU
Retro, 7 Lôn y Felin, Caerdydd, CF10 1FL
Daffodil, 33 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ
The Cricketers, 66 Cathedral Road, Pontcanna, Caerdydd, CF11 9LL
The Dock, Uned 1 Cei'r Fôr-forwyn, Caerdydd, CF10 5BZ
The Discovery, Celyn Avenue, Caerdydd, CF23 6FH
Yates Caerdydd, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd, CF10 3AD
Royal Oak yr Eglwys Newydd, 17 Heol Merthyr, Caerdydd, CF14 1DA
Mocka Lounge, 1 Lôn y Felin, Caerdydd, CF10 1FL
Metro’s, 10 Bakers Row, Caerdydd, CF10 1AL
Brewhouse & Kitchen, Sophia Close, Caerdydd, CF11 9HW
Lewis Arms, Heol Goch, Pentyrch, CF15 9PN
Queens Vaults, 29 Heol y Porth, Caerdydd
The Four Elms, 1 Elm Street, Caerdydd
Three Horseshoes, Main Road, Llanbedr-y-Fro, Caerdydd, CF5 8LH
Royal Exchange, Tŷ Mawr Road, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FQ
Admiral, 239 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, CF11 9AL
Cardiff Cottage, 25 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1AA
Cornwall Hotel, 92 Cornwall Street, Caerdydd, CF11 6SR
Bro Morgannwg
Park Hotel, Park Crescent, y Barri, CF62 6HE
St Fagans Penarth, 114 Glebe Street, Penarth, CF64 1EB
The Golden Lion, 69 Glebe Street, Penarth, CF64 1EF
The Bear’s Head – Penarth, 37-39 Windsor Road, Penarth, Caerdydd, CF64 1JD
Abertawe
Coyote Ugly Abertawe, 41 Salubrious Place, Wind Street, Abertawe, SA1 1EE
One Eyed Willy's Abertawe, 20-21 Wind Street, Abertawe, SA1 1DY
Jack Murphy's Uplands, Abertawe, 49 Uplands Crescent, Uplands, Abertawe, SA2 0NP
Jack Murphy's Wind Street, Abertawe, 5 Wind Street, Abertawe, SA1 1DW