Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi'i ddedfrydu i 10 mlynedd, gyda chyfnod estynedig o chwe blynedd, ar ôl cael ei euogfarnu am dreisio ac ymgais i dreisio.
Plediodd Yusuf Nur, 47 oed, o Gaerdydd, yn euog i'r ddwy drosedd ar 15 Medi 2025, a heddiw (23 Ionawr) cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Clywodd y llys, tua 5.20am ar 17 Awst, i'r dioddefwr 19 oed stopio swyddogion a oedd ar batrôl a rhoi gwybod ei bod newydd gael ei threisio ar Ffordd y Brenin yng nghanol y ddinas.
Daethpwyd o hyd i Nur yn gyflym, a chafodd ei arestio a'i euogfarnu. Er iddo wadu unrhyw gyswllt ar y dechrau, yn dilyn gwaith sylweddol a wnaed gan swyddogion gan gynnwys adolygiad fforensig ac adolygiad o ddeunydd CCTV, newidiodd Nur ei ble i euog.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, DC Liberty Knox:
“Ni ddylid diystyru'r dewrder sydd ei angen i roi gwybod am drosedd fel hon, a gobeithio y bydd gwybod bod Nur wedi cael ei ddwyn i gyfrif yn helpu'r dioddefwr i ddechrau ar ei thaith i wella.
“Gwnaed gwaith sylweddol ar yr ymchwiliad hwn ac, yn y pen draw, plediodd Nur yn euog. Hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion a gefnogodd yr ymchwiliad hwn gan sicrhau bod Nur yn cael ei ddwyn i gyfrif am ei weithredoedd.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.