Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael dedfryd o garchar estynedig ar ôl cyfaddef i gynnau tân yn fwriadol.
Cyneuodd Christopher Sayce, 42 oed o ardal Port Tennant, dân yn The Wallich, Carlton Terrace, Abertawe rywbryd cyn 4pm ar 16 Tachwedd y llynedd. Tua 4.20pm, defnyddiodd Sayce ffôn talu i ffonio'r heddlu i gyfaddef i'r hyn yr oedd wedi'i wneud.
Achosodd y tân ddifrod sylweddol i un ystafell yn yr adeilad.
Plediodd Sayce yn euog i gynnau tân yn fwriadol yn y llys ym mis Rhagfyr.
Cafodd ddedfryd estynedig o chwe blynedd a phedwar mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll James Tincombe:
“Dechreuodd Christopher Sayce ei ymosodiad â thân ar ôl i aelod o staff y lleoliad wrthod rhoi sigarét iddo.
“Yn ffodus iawn, ni chafodd neb ei anafu o ganlyniad i weithredoedd peryglus Christopher Sayce.
“Mae'n amlwg yn peri risg i'r cyhoedd ac oherwydd hynny mae'n wych ei weld yn cael dedfryd o garchar estynedig.”