Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe a oedd yn rhedeg cylch masnachu mewn cyffuriau wedi cael ei garcharu.
Roedd Abbas Al-Sulaimawi, 22 oed o Waun Wen, yn rhedeg llinell gyffuriau “Milly”, a oedd yn anfon negeseuon testun mewn swmp at ddefnyddwyr cyffuriau yn cynnig cyflenwadau o grac cocên a heroin.
Roedd Al-Sulaimawi yn newid rhif ei linell gyffuriau yn aml er mwyn osgoi cael ei ddal, ond arweiniodd ymgyrch ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru a'r Heddlu Metropolitanaidd at briodoli'r llinellau cyffuriau iddo.
Ar ôl cael ei arestio, canfuwyd bod gan Al-Sulaimawi y cardiau SIM ar gyfer dwy linell gyffuriau wedi'u cuddio mewn band gwasg y tu mewn i ddillad y daethpwyd o hyd iddynt yn ei ystafell wely.
Canfuwyd hefyd ei fod wedi cuddio £3,490 mewn arian parod o dan gwpwrdd yn ei ystafell wely.
Ar ôl pledio'n euog i ymwneud â chyflenwi cocên a heroin, cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd, saith mis a phythefnos yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Luke Tucker:
“Er mai dim ond 22 oed yw Abbas Al-Sulaimawi, mae ganddo nifer o euogfarnau blaenorol am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
“Ni all atal ei hun rhag gwerthu'r cyffuriau hyn sy'n achosi poen a gofid ar strydoedd Abertawe. Mae'n braf iawn gweld ei fod bellach wedi cael ei ddwyn i gyfrif, ac y bydd yn treulio blynyddoedd yn y carchar.”