Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae bwrgler cyson a dargedodd nifer o gyfeiriadau yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi'i garcharu.
Targedodd Lewis Wood, 35 oed, o Gasnewydd, gartrefi yn ardal Baglan, Castell-nedd Port Talbot yn bennaf ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr y llynedd.
Ar 12 Ionawr, plediodd Wood yn euog i gyfres o droseddau, gan gynnwys dwyn cerbyd modur, gyrru tra roedd wedi'i wahardd, defnyddio cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti, deg achos o ymgais i gyflawni bwrgleriaeth mewn annedd gyda'r bwriad o ddwyn, tri achos o gyflawni bwrgleriaeth gyda'r bwriad o ddwyn. Plediodd hefyd yn euog i dri achos o ymosod drwy daro yn erbyn dioddefwyr gwahanol.
Heddiw, 21 Ionawr, mae wedi cael ei ddedfrydu i gyfanswm o bum mlynedd a thri mis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sam Tobin: “Lladron fel Lewis Wood yw'r math o bobl hunanol sy'n gwneud i bobl dda deimlo'n anniogel yn eu cartrefi eu hunain.
“Nid oedd Lewis yn poeni dim am unrhyw un o'i ddioddefwyr, ond bydd ei droseddau wedi cael effaith fawr ar eu bywydau.
“Mae bob amser yn dda gweld pobl fel Lewis Wood yn cael eu dwyn i gyfrif. Mae'n haeddu mynd i'r carchar.”