Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd swyddogion eu galw i Heol Coety, Pen-y-bont ar Ogwr tua 12:43p.m. ddydd Llun Hydref 19 yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad traffig ffyrdd, lle roedd car wedi gwrthdaro â wal.
Ar ôl mynd yno, gwelodd swyddogion fod y gyrrwr wedi dioddef anafiadau yn sgîl trywanu nad oeddent yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad. Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach er gwaethaf ymdrechion gorau'r staff meddygol.
Mae'r fenyw wedi cael ei hadnabod yn ffurfiol. Eleanor Barnfield oedd hi, yn 47 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, a oedd yn gweithio i Cymoedd i'r Arfordir. Mae teulu Eleanor yn parhau i gael cymorth gan swyddogion cyswllt teuluol sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Yn dilyn ymgyrch plismona sylweddol o amgylch Ger-y-Nant, mae dyn 61 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. Mae ef yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Dywedodd teulu Eleanor, "Mam oedd y person mwyaf caredig, mwyaf cariadus a dewr yn y byd. Roedd hi'n golygu popeth i ni a bydd ei theulu a'i ffrindiau ffyddlon yn ei charu ac yn gweld ei heisiau am byth. Hi oedd ein craig ni."
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Jason Rees: "Mae ein meddyliau'n parhau i fod gyda theulu Eleanor yn ddiwyro. Rwyf am cadarnhau i'r gymuned fod timau o dditectifs a staff arbenigol wrthi'n ymchwilio. Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chefnogaeth trigolion, yn enwedig y rheini a gafodd eu dadleoli yn dilyn y digwyddiad. Efallai y bydd cymunedau lleol yn sylwi ar fwy o swyddogion heddlu yn yr ardal wrth i'n hymchwiliad barhau"
"Rydym yn annog unrhyw un a allai fod yn dyst i'r digwyddiad hwn neu sydd ag unrhyw wybodaeth berthnasol i gysylltu â ni drwy'r ddolen hon https://mipp.police.uk/operation/62SWP26C41-PO1 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600342470. Diolch am eich cydweithrediad a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn ac rydym yn atgoffa pobl i beidio â thaenu sïon ar-lein am yr amgylchiadau."