Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Donyrefail wedi cael ei garcharu ar ôl taro swyddog heddlu â'i gar
Ym mis Rhagfyr 2025, bu swyddogion yr heddlu yn chwilio am ddyn mewn cysylltiad â throseddau dwyn o siopau. Gwnaeth swyddogion mewn dillad plaen yn ardal Tonyrefail weld y dyn dan amheuaeth mewn Audi A4 a’i arestio ar ôl cornelu a rhwystro’r car rhag dianc. Baciodd Evans y car yn ôl ar gyflymder, gan adael y swyddog yn sownd rhwng yr Audi a cherbyd yr heddlu gydag anafiadau difrifol.
Gwnaeth Evans a'r dyn ffoi o'r lleoliad. Y diwrnod wedyn, daeth swyddogion o hyd i'r Audi y tu allan i eiddo yn yr ardal leol. Wrth fynd i mewn i'r eiddo, gwelsant Evans a'r dyn dan amheuaeth yn ceisio cuddio yn y gegin.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Victoria Balzano: "Rhaid canmol dewrder ein swyddogion, ond mae'n bwysig cydnabod yr effaith sylweddol mae'r digwyddiadau hyn yn ei chael arnyn nhw, eu teuluoedd, a'r gymuned ehangach. Heb os, mae digwyddiadau fel y rhain, y mae swyddogion yn eu hwynebu bob dydd, yn effeithio'n ddwfn ar bob swyddog.
"Bydd Evans yn wynebu dedfryd o garchar rwyf yn gobeithio y bydd yn adlewyrchu difrifoldeb ei weithredoedd.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Jason Rees: "Hoffwn ddiolch i'r tîm a weithiodd mor galed i sicrhau euogfarn sy'n golygu bod Evans yn gwasanaethu dedfryd o garchar; hoffwn hefyd ddiolch i'n holl swyddogion sy'n rhoi eu hunain mewn perygl o ddydd i ddydd. Mae achosion fel hyn yn ein hatgoffa pa mor beryglus y gall gwaith plismona fod, ond hefyd sut rydym yn dod at ein gilydd fel tîm pan fydd pethau fel hyn yn digwydd."