Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae mwy na dwy ran o dair o redwyr benywaidd wedi bod yn destun aflonyddu ar y stryd yn ne Cymru, yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan Heddlu De Cymru.
Fe wnaeth Heddlu De Cymru arolygu mwy na 160 o redwyr benywaidd o bob cwr o dde Cymru a chanfod bod 68% (117) ohonynt wedi bod yn destun rhyw fath o aflonyddu ar y stryd neu ymddygiad camdriniol.

Y mathau mwyaf cyffredin o aflonyddu oedd heclo, sylwadau rhywiol, canu corn y car, arafu'r car wrth eu hymyl, chwibanu, ac, mewn rhai achosion, ymosodiad corfforol neu rywiol.
Mae'r profiadau hyn yn effeithio ar sut mae menywod yn teimlo pan maen nhw'n rhedeg ac yn eu gorfodi i wneud newidiadau wrth ymarfer corff yn yr awyr agored. Dywedodd rhai ohonynt wrthym eu bod yn osgoi gwrando ar gerddoriaeth, yn newid eu llwybr, yn rhedeg yn ystod golau dydd yn unig, yn rhannu eu lleoliad â ffrindiau a theulu, yn gwisgo dillad maen nhw'n teimlo y byddant yn denu llai o sylw, ac nid yw rhai ohonynt bellach yn rhedeg ar eu pennau eu hunain.
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r heddlu wedi partneru â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru i lansio 'JogOn' sydd â'r nod o atal aflonyddu a cham-drin menywod a merched sy'n rhedeg ac yn loncian. Mae'n mynd i'r afael â'r aflonyddu y mae rhedwyr benywaidd yn ei wynebu'n rhy aml, gan gynnwys heclo, bygythiadau ac ymosodiadau.
Fel rhan o'u patrolau, bydd timau yn y gymdogaeth yn ymweld â chymunedau lleol drwy ddigwyddiadau parkrun, clybiau rhedeg a mentrau eraill sy'n hyrwyddo diogelwch menywod ym myd chwaraeon.

Bydd Heddlu De Cymru yn annog pobl i gydnabod a riportio digwyddiadau ac yn siarad â rhedwyr i'w cefnogi i fynd ati a gwrthsefyll yr ymddygiadau hyn.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Donna Llewellyn, arweinydd yr heddlu ar gyfer materion Trais yn Erbyn Menywod a Merched:
"Ein neges i dramgwyddwyr sy'n aflonyddu ar y stryd yw hyn: ni fyddwn yn goddef eich gweithredoedd.
"Am gyfnod rhy hir mae menywod wedi newid eu hymddygiad i deimlo'n ddiogel, ond o hyn ymlaen chi sy'n gorfod newid. Nid yw sylwadau sy'n dangos casineb at fenywod ac ymddygiadau ysglyfaethus yn dderbyniol yn ein cymunedau.
“Mae heclo bellach yn drosedd. Gallwch nawr gael cofnod troseddol a hyd at ddwy flynedd yn y carchar am aflonyddu rhywun yn gyhoeddus ar sail rhyw.
"Byddwn yn ei gymryd o ddifrif a byddwn yn gweithredu."
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:
"Mae cefnogi dioddefwyr a phobl agored i niwed a chreu cymunedau mwy diogel i bawb yn flaenoriaeth allweddol yn fy Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder.
“Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel ac yn hyderus yn eu bywydau beunyddiol nhw. Nid oes lle i fygwth, heclo nac ymosod yn ein cymunedau. Ni ddylai neb deimlo bod yn rhaid iddi oddef aflonyddu na chredu na fydd riportio yn gwneud gwahaniaeth. Rydym am i bobl ddeall nad yw'r ymddygiad hwn byth yn dderbyniol ac i deimlo eu bod wedi'u grymuso i'w riportio, gan wybod y bydd rhywun yn gwrando, yn eu cymryd o ddifrif ac yn eu cefnogi.
“Dyna pam rwy'n falch o helpu i ariannu'r ymgyrch bwysig hon JogOn, sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth, annog riportio ac anfon neges glir na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef.
“Drwy weithio ar y cyd, gallwn herio ymddygiad annerbyniol, cefnogi'r rhai hynny y mae'n effeithio arnynt, a helpu i greu de Cymru ddiogel, gyfiawn a chynhwysol."
Os ydych chi'n destun unrhyw fath o aflonyddu, cysylltwch â ni drwy'r ffyrdd canlynol:
Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 bob tro.
Os nad ydych chi'n dymuno siarad â'r heddlu, gallwch hefyd gysylltu ag elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111.