Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion wedi cael pwerau ychwanegol sy'n eu galluogi i gyfeirio pobl i ffwrdd o Sgwâr y Brenin, y Barri, yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cafwyd adroddiadau bod pobl ifanc ar do’r llyfrgell ac adeiladau eraill a’u bod yn rhoi bin ar dân, yn ymyrryd â drysau tân, ac yn bygwth staff y cyngor a’u cam-drin yn eiriol.
Dywedodd yr Arolygydd Huw Tyler o Heddlu De Cymru: "Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel, ble bynnag maen nhw, ac ni ddylai neb fod yn destun bygythiadau, cam-drin geiriol nac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwad i siarad â'u pobl ifanc am beidio ag ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Sicrhewch hefyd eich bod yn gwybod gyda phwy y maen nhw’n cymdeithasu, beth maen nhw’n ei wneud a ble maen nhw.”
Mae'r gorchymyn, sydd wedi'i roi o dan Adran 34 o'r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ar waith o 6pm heddiw (dydd Gwener 9 Hydref) tan 6pm ddydd Sul 11 Hydref.
O dan y gorchymyn, gall swyddogion yr heddlu gyfarwyddo unigolion neu grwpiau o bobl i adael yr ardal am 48 awr os yw eu hymddygiad wedi achosi, neu os ydy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i aelodau o'r cyhoedd.
Bydd swyddogion yn mynd ag unrhyw un o dan 16 oed y mae’r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol iddo i’w gartref neu i le diogel.
Ychwanegodd yr Arolygydd Tyler: "Rydym wedi ymrwymo i gadw'r Barri yn ddiogel a rhoi terfyn ar y cynnydd diweddar a welwyd yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae atgyfeiriadau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi'u cyflwyno i nifer o bobl ifanc yn barod, ac rydyn ni wedi siarad â'u rhieni."
Mae'r Tîm Plismona yn y Gymdogaeth yn parhau i gynnal patrolau pwrpasol yn Sgwâr y Brenin a gofynnwn i'r cyhoedd barhau i roi gwybod am ddigwyddiadau a rhannu gwybodaeth.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon am y mater hwn gysylltu â Heddlu De Cymru gan grybwyll 2600330962.
Cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol.
💻 Cysylltwch â ni ar-lein yn https://bit.ly/SWPProvideInfo
📞 Ffoniwch 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.