Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Faesteg wedi cael ei garcharu am nifer o droseddau rhywiol yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Cafodd Christopher Williams, 73 oed o Faesteg, ei garcharu am 11 mlynedd a 9 mis a rhoddwyd gorchymyn atal iddo pan ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher 21 Hydref.
Plediodd Williams yn euog i naw cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch dan 14 oed, dau gyhuddiad o annog merch dan 14 oed i gyflawni gweithred anwedduster difrifol, un cyfrif o droseddwr 18 oed neu hŷn yn cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol treiddgar gyda merch dan 13 oed, un cyfrif o droseddwr 18 neu hŷn yn cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol nad yw'n dreiddgar gyda merch dan 13 oed, un cyfrif o geisio cael cyfathrach rywiol gyda merch dan 13 oed ac un cyfrif o ymosodiad anweddus ar fenyw dros 16 oed.
Bu'r troseddau hyn yn rhychwantu cyfnod o ddeng mlynedd ar hugain ac yn cynnwys nifer o ddioddefwyr.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Benjamin Lewis:
“Roedd dioddefwyr Christopher Williams yn eithriadol o ddewr a chryf yn rhoi gwybod i rywun am y troseddau yr oeddent wedi’u dioddef, yn enwedig o ystyried bod cymaint o flynyddoedd wedi mynd heibio ers y troseddau hynny.
“Mae’r ymchwiliad hwn, sydd wedi arwain at ddwyn Williams gerbron y llysoedd yn y pen draw, wedi bod yn hir ac yn gymhleth, ac mae difrifoldeb ei droseddau’n cael ei adlewyrchu gan y ddedfryd hir a roddwyd iddo.”