Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddoe ac fel rhan o ymweliad arbennig â de Cymru, roedd Eu Mawrhydi'r Brenin a'r Frenhines a'i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn bresennol yn y digwyddiad coffa swyddogol yn Aberfan i anrhydeddu a chofio'r 116 o blant a'r 28 o oedolion a gollodd eu bywydau 60 mlynedd yn ôl ar 21 Hydref 1966.
Bydd digwyddiadau trasig y diwrnod hwnnw yn cael eu cofio am byth yng nghalonnau a meddyliau pobl ledled y genedl a byddant yn parhau i fod yn foment arwyddocaol yn ein hanes cenedlaethol ac yn yr hanes rydyn ni'n ei rannu â'n cymunedau yma yn ne Cymru.
Yn ystod y digwyddiad, cyfarfu'r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan â'r parti Brenhinol a chyflwyno arddangosiad arbennig i'w Mawrhydi a luniwyd gan Heddlu De Cymru er cof am y rheini a gollodd eu bywydau ac i fyfyrio ar ymdrechion achub heddluoedd de Cymru, a fu'n gweithio ochr yn ochr ag ymatebwyr brys eraill, glowyr ac aelodau o'r cyhoedd ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw.

Hefyd yn bresennol fel rhan o grŵp Heddlu De Cymru oedd Rona Price, 94 oed, a fu gynt yn Uwch-arolygydd ac yn un o'r gweithwyr gwasanaethau brys niferus a anfonwyd i'r fan a'r lle y diwrnod hwnnw. Yn ystod y cyfnod cyn y garreg filltir hon, cafodd Rona ei chyfweld gan ITV Cymru ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr a siaradodd am ei hatgofion o fod yn y fan a'r lle. Gwnaeth y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Tom Williams, ei chroesawu wrth iddi gyrraedd.

Gweithgareddau Coffa ym Mhencadlys yr Heddlu
Yn y cyfamser, wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal yn Aberfan, ymunodd cydweithwyr ym Mhencadlys yr Heddlu â chyfnod byr o fyfyrio dan arweiniad ein Dirprwy Brif Gwnstabl, Jason Davies.
Yn ystod y cyfnod o fyfyrio, clywodd cydweithwyr ddarlleniadau gan gaplan ein heddlu, Robert Coyne a'r Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools a chyfranogi yn y funud o dawelwch genedlaethol.
Yn dilyn hyn, cynhaliwyd eiliad fer o goffa wrth Ddeial Haul Coffa ein heddlu, lle gwnaeth y Dirprwy Brif Gwnstabl a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu osod torchau blodau mewn teyrnged i'r rheini a gollodd eu bywydau.
|
|
Wrth gyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon, rydym yn cofio'r rheini a gollodd eu bywydau, y rheini a oroesodd, a phawb a ymatebodd pan fu'r angen fwyaf. Ni fyddwn byth yn eu hanghofio.