Stamp amser presennol: 02/10/2026 16:25:01
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Ein Gwobrau Tîm Heddlu De Cymru 2026

Cynnwys y prif erthygl

Abertawe/Castell-nedd Port Talbot Caerdydd/Bro Morgannwg RhCT/Merthyr/Pen-y-bont ar Ogwr Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 09:00 02/10/2026

Team SWP Awards_Logo_Proof.png

Dewrder, uniondeb a thosturi, arloesi, penderfyniad a gwydnwch – gwnaeth ein Gwobrau Tîm Heddlu De Cymru 2026 arddangos gweithredoedd a gwaith rhagorol gan swyddogion, staff, gwirfoddolwyr ac asiantaethau partner.

Gwnaeth ein gwesteion, a oedd yn cynnwys teulu a ffrindiau'r rheini a enwebwyd, glywed straeon llawn ysbrydoliaeth am y rheini sydd wedi rhagori yn eu meysydd, neu sydd wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl ar ran y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

 

Ein noddwyr

Rydym mor ffodus o gael cefnogaeth gan noddwyr ein Gwobrau Tîm Heddlu De Cymru 2026, sy’n ddigon hael i ddangos eu bod yn gwerthfawrogi’r gwaith rydym yn ei wneud, a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

 

Cyfreithwyr Dolmans

dolmans logo.jpg

Mae Cyfreithwyr Dolmans yn cynnal eu gwaith arbenigol ag awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus ac yswirwyr blaenllaw o’u lleoliad yng Nghaerdydd ac mae ganddynt enw da yn y byd busnes am eu gweledigaeth fasnachol a’u dull pragmataidd o ddarparu gwasanaethau cyfreithiol.

 

Niche

Niche_Technology_Logo.jpg

Mae meddalwedd NicheRMS yn galluogi asiantaethau byd-eang sy’n gorfodi’r gyfraith i nodi, atal a datrys troseddau. Mae gan eu staff 400+ mlynedd o brofiad plismona.

 

Chwaraeon Heddlu De Cymru

pssw2.jpg

Mae Chwaraeon Heddlu De Cymru yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi strategaeth llesiant Heddlu De Cymru drwy annog swyddogion, aelodau o staff a gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chymdeithasol sy'n hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol. Mae gan Chwaraeon Heddlu De Cymru bron i 30 o adrannau chwaraeon a chymdeithasol gweithredol, gan rhoi cyfle i gydweithwyr ddod ynghyd, ymlacio a meithrin cyfeillgarwch ym mhob rhan o'r heddlu. Drwy ostyngiadau arbennig ar docynnau theatr, cynhyrchion a theithiau diwrnod, yn ogystal â Loteri poblogaidd Chwaraeon Heddlu De Cymru sy'n cynnig gwobrau wythnosol, mae'r sefydliad yn helpu i feithrin ymdeimlad cryf o gymuned a chynhwysiant o fewn Tîm Heddlu De Cymru.

 

Salesforce

Salesforce Logo.png

Mae Salesforce yn helpu busnesau i gysylltu cwsmeriaid, gweithwyr a gweithrediadau drwy blatfform unedig gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial dibynadwy, rhaglenni cyfrifiadurol o’r radd flaenaf, a data unedig – o swyddogaethau blaen swyddfa, megis gwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid, i wasanaethau cefn swyddfa, fel gweithrediadau a technoleg gwybodaeth. Gall bodau dynol ac asiantau Deallusrwydd Artiffisial weithio ar y cyd, gwneud penderfyniadau, a chwblhau gwaith gan ddefnyddio unrhyw ryngwyneb heb newid offer na cholli’r cyd-destun.

 

Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru

pcc.png

Cyflwynwyd rôl Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2012 i fod yn llais etholedig y bobl ac i sicrhau y darperir plismona effeithlon ac effeithiol.

Etholwyd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools yn Mai 2024.

 

Ffederasiwn Heddlu De Cymru

federation 2.jpg

Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr yw’r gymdeithas staff sy’n cynrychioli dros 130,000 o swyddogion rheng a llinell.

Mae pob cangen yn gweithredu fel y corff trafod ac ymgynghori gan ddarparu cyswllt effeithiol rhwng swyddogion ac uwch reolwyr.

 

Unison Cymru Wales

unison cymru wales.jpg

UNSAIN yw’r undeb mwyaf yng Nghymru, gyda thros 100,000 o aelodau ym mhob rhan o’r wlad. Mae cynrychiolwyr UNSAIN yn ymroddedig i gefnogi eu haelodau yn y gweithle ac ymgyrchu i wella cyflogau ac amodau cyflogaeth.

 

Prifysgol De Cymru

USW Logo2.jpg

Ni yw'r Brifysgol ar gyfer De Cymru, gyda champysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Wedi ein hysgogi gan ein cenhadaeth i newid bywydau a'n byd er gwell, Prifysgol De Cymru yw prifysgol ehangu cyfranogiad arweiniol Cymru, sy'n gwella cyfleoedd bywyd unigolion ac yn creu cymunedau mwy llewyrchus. Cawsom ein sefydlu gan ddiwydiant dros 180 o flynyddoedd yn ôl, ac rydym yn parhau i adael y tu allan i mewn gyda chwricwlwm wedi'i arwain gan ddiwydiant, profiad gwaith byd go iawn, ac ymchwil gymhwysol ac arloesedd. Cawn ein creu ar y cyd â'r diwydiant i ymdrin â heriau lleol a heriau byd-eang.

 

Cydnabuwyd 35 o unigolion neu dimau ar draws 13 o gategorïau yn y gwobrau. Llongyfarchiadau i:

 

Gwobr Tosturi, noddwyd gan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Andrew Jones
Darparu cymorth eithriadol yn gyson i bobl sy'n agored i niwed yng nghymuned Glyn-nedd.

Ditectif Cwnstabl Claire Davies
Proffesiynoldeb ac ymroddiad eithriadol i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

 

Gwobr Dewrder, noddwyd gan Cyfreithwyr Dolmans

Ymosodiad Terfysgol yng Ngorsaf Heddlu Tonysguboriau
Dewrder eithriadol wrth fynd i'r afael â therfysgwr a oedd bwriadu niweidio swyddogion heddlu yng Ngorsaf Heddlu Tonysguboriau, a'i arestio.

Tîm Ymateb Sandfields
Gwaith rhagorol fel tîm i achub bywyd menyw mewn perygl uchel o foddi oddi ar draeth Aberafan.

Cwnstabl Gavin Leyshon
Aros yn ddigynnwrf, yn ddigyffro ac yn broffesiynol wrth ddal dyn arfog a chanddo gyllell fawr.

 

Gwobr Gweithlu Dewr ac Ymroddgar, noddwyd gan Prifysgol De Cymru

Uned Gwrth-lygredd
Ymrwymiad eithriadol i wella safonau darparu gwasanaethau a sicrhau diwylliant iach yn y gweithle.

Tîm Gweithredu Viva Engage
Gweithredu Viva Engage yn llwyddiannus, sef platfform lle mae cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi ac mewn cyswllt.

 

Gwobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Derrick Hassan, noddwyd gan Unsain Cymru

Ditectif Cwnstabl Imran Ashraf
Proffesiynoldeb, tosturi ac ymrwymiad neilltuol wrth gefnogi teulu Kamran Aman.

 

Gwobr Effeithlonrwydd a Chynhyrchiant, noddwyd gan noddwyd gan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Adran Ystadau
Cyflawni Strategaeth Ystadau uchelgeisiol ochr yn ochr â rheoli'r galw beunyddiol.

Ditectif Arolygydd Robert Ewin
Arweinyddiaeth eithriadol i sicrhau gwell rheolaeth o lwythi gwaith a rhannu data fforensig digidol yn ddiogel.

Cwnstabl Ernest Fear
Cymryd perchnogaeth o Hyfforddiant Trefn Gyhoeddus, gwella safonau a gwneud arbedion cost sylweddol.

 

Gwobr Darparu Gwasanaeth o’r Radd Flaenaf i Ddioddefwyr, noddwyd gan Salesforce

Cwnstabl Danielle Bartz
Proffesiynoldeb, tosturi ac ymroddiad eithriadol wrth weithio gyda dioddefwr cam-drin domestig a oedd yn agored iawn i niwed.

Cwnstabl John Curry
Ymrwymiad rhagorol i ddiogelu mwy na 200 o ddioddefwyr cam-drin domestig gan ddefnyddio gorchmynion amddiffynnol.

Ditectif Cwnstabl Stacey Jones
Gwaith rhagorol yn arwain at ddedfryd estynedig o 30 mlynedd ar gyfer achos o gam-drin rhywiol yn y teulu gyda thri dioddefwr a oedd yn blant.

Ditectif Cwnstabl Andy Williams
Gwaith eithriadol i sicrhau cyfiawnder i Jensen-Lee Dougal, pum mis oed, gan gefnogi ei deulu a gofalu amdanynt.

Y Tîm Ymchwilio i Lofruddiaeth Paria Veisi
Ymateb eithriadol i lofruddiaeth Paria Veisi, yn canolbwyntio ar y dioddefwr, a oedd yn achos rhyngwladol heriol a chymhleth.

 

Gwobr Uniondeb, noddwyd gan Niche Technology

Uwch-arolygydd Dai Cole
Yn cydnabod penderfyniad tawel Dai i wneud yr hyn a oedd yn iawn bob amser drwy gydol ei 25 mlynedd o wasanaeth.

 

Gwobr Erlid Troseddwyr yn Ddi-baid, noddwyd gan Niche Technology

Tîm Ymgyrch Helia
Gwaith eithriadol ar ymchwiliad cymhleth i gamfanteisio'n rhywiol ar blant ar-lein a oedd yn cynnwys dioddefwyr ledled y Deyrnas Unedig.

Tîm Ymgyrch Leskea
Ymrwymiad, gofal a gwydnwch eithriadol drwy gydol yr ymchwiliad cymhleth i saethu angheuol Joanne Penney.

Tîm Ymgyrch Lemna
Gwaith rhagorol ar ymchwiliad cymhleth i geisio llofruddio a herwgipio.

Ditectif Cwnstabl Gareth Brien
Dangos penderfyniad ac arloesedd wrth ymchwilio i grŵp troseddau cyfundrefnol soffistigedig.

 

Gwobr Cyflawniad Oes Swyddog yr Heddlu, noddwyd gan Ffederasiwn Heddlu De Cymru

Detective Chief Inspector Donna Clutterbuck
Wedi ymrwymo i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ac yn ein gweithlu ers bron 30 mlynedd.

Cwnstabl Emma Warner-Brindley
Enw da am ragoriaeth ym mhob rôl a gafwyd. Gwasanaethu ein cymunedau a chefnogi cydweithwyr am bron 30 mlynedd.

Detective Inspector David Butt
Adlewyrchu gyrfa ragorol am 30 mlynedd, wedi'i diffinio gan ragoriaeth, uniondeb ac ymrwymiad diwyro i wasanaeth cyhoeddus.

 

Gwobr Cyflawniad Oes Staff yr Heddlu, noddwyd gan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Cynorthwy-ydd Cymorth Cuddwybodaeth Kerrie Evans
Curiad calon y tîm. Cydnabod 37 mlynedd o wasanaeth rhagorol ym maes Safonau Proffesiynol.

Rheolwr Gwella Parhaus Tracey Cook
Cydnabod gallu rhagorol i arwain, ysbrydoli a chefnogi eraill trwy gydol eich gyrfa yn ein Canolfan Gwasanaeth Cyhoeddus.

 

Gwobr Cyflawniad Gwirfoddolwr yr Heddlu, noddwyd gan Chwaraeon Heddlu De Cymru

Parchedig Robert Coyne
Cydnabod ymrwymiad diwyro i ddarpariaeth y Gaplaniaeth yn Heddlu De Cymru ers bron degawd.

Arolygydd Arbennig Kieron Pike
Ymrwymiad, proffesiynoldeb ac arweinyddiaeth eithriadol am dros chwe mlynedd o wasanaeth gwirfoddol.

Heddlu Gwirfoddol Uned Reoli Sylfaenol Caerdydd a'r Fro
Ymrwymiad i wasanaethu ein cymunedau a helpu i ymdrin â blaenoriaethau plismona Caerdydd a’r Fro.

 

Gwobr Ymddiriedaeth a Hyder, noddwyd gan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Tîm Ymgyrch Tellima
Dull eithriadol mewn partneriaeth i fynd i'r afael â delio cyffuriau a throseddu cysylltiedig yn Nhredelerch.

Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Ayeshah Williams
Ymrwymiad eithriadol i gymunedau Treforys ac Eastside, arwain ar fentrau a gweithio gyda phartneriaid.

Tîm Ymgyrch Livewire
Mynd i'r afael â'r defnydd o e-feiciau ac e-sgwteri anghyfreithlon, a'r niwed cysylltiedig, yn Uned Reoli Sylfaenol Caerdydd a'r Fro.

Tîm Prosiect Pili-Pala
Partneriaeth ragorol sy'n darparu amgylchedd diogel a chefnogol i ferched 13–16 oed.

 

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Prif Gwnstabl

Gweinyddwr Swyddfa Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig Trevor Wallbank
Dathlu 50 mlynedd o wasanaeth rhagorol, cyflawniad eithriadol ac ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus.

Cwnstabl Tony Phipps
Ymddiriedaeth a gwerthfawrogiad. Cydnabod 40 mlynedd o gefnogaeth ragorol i gydweithwyr a chymuned Treforys.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.