Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei roi o dan orchymyn ysbyty am gyfnod amhenodol ar ôl trywanu dyn i farwolaeth yn ei gartref yn Butetown.
Cafwyd Mujeeb Rahman Hassani, 40 oed o Butetown, yn euog yn flaenorol o ddynladdiad Ibrahim Yassin.
Cafodd swyddogion eu galw i adroddiad o ymosodiad difrifol yn Rhodfa Belmont ychydig wedi 9am ddydd Sul 18 Chwefror.
Ymosodwyd ar Mr Yassin, 64 oed, yn ei gartref yn Rhodfa Belmont lle y cafodd ei drywanu sawl gwaith.
Aeth swyddogion i'r lleoliad a chafodd Hassani ei ddal gerllaw ar Stryd James.
Fe gafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth, ond yn ystod yr achos llys yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Awst 2026, cafodd y rheithgor gyfarwyddyd ffurfiol i ddyfarnu Hassani yn ddieuog.
Clywodd y llys fod gan y diffynnydd gyfrifoldeb lleiedig adeg y digwyddiad.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Yassin: "Safwn gerbron y llys hwn heddiw fel teulu sydd wedi'i lorio'n llwyr gan golli ein tad, Ibrahim Yassin. Roedd yn fwy na thad i ni; roedd yn ffynhonnell cariad, arweiniad a nerth.
Cymerwyd ei fywyd oddi wrthym yn y ffordd fwyaf torcalonnus posibl, gan adael bwlch na ellir fyth ei lenwi. Yr hyn sydd gennym ar ôl yw ein hatgofion gwerthfawr ohono, galar aruthrol, a phoen na all geiriau ei mynegi'n llawn.
"Gofynnwn i bobl gofio ein tad, Ibrahim Yassin, am y ffordd roedd e’n byw ei fywyd, y gymuned a wasanaethodd, a'r teulu a fagodd. Rydym eisiau iddo gael ei gofio am bwy ydoedd, ei ddylanwad ar fywydau pobl eraill a'r cariad a roddodd, ac nid am amgylchiadau ei farwolaeth.
"Ni all dim ddod â'n tad yn ôl na gwaredu’r dioddefaint rydym wedi’i brofi fel teulu. Ond gobeithiwn, drwy'r achos hwn, y caiff cyfiawnder ei weinyddu a'r atgof ohono ei anrhydeddu.
"Roeddem yn ei garu, rydym yn gweld ei eisiau, a bydd yn aros yn ein calonnau am byth."
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Claire Lamerton o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru: "Roedd Mr Ibrahim Yassin yn dad ymroddedig i’w 11 o blant ac roedd yn cael ei barchu’n fawr yng nghymuned Butetown.
“Wrth reswm, mae ei farwolaeth wedi achosi galar a thrallod aruthrol i'w deulu ac i gymuned glòs Butetown.
"Gobeithiwn y bydd y ddedfryd heddiw yn dod â rhywfaint o ddiweddglo ac ymdeimlad o gyfiawnder i'r teulu yn sgil y golled enbyd hon.
"Maent wedi dangos dewrder ac urddas drwy gydol yr achos llys, ac rwy’n estyn fy nghydymdeimlad diffuant iddynt. “