Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn annog pobl ledled de Cymru i feddwl ddwywaith cyn troi eiliad o ddicter yn dreisgar, wrth iddo gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd (5-9 Hydref) gydag ymgyrch newydd i dynnu sylw at y canlyniadau dinistriol yn sgîl un ergyd.
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd yn flynyddol, pan fydd sefydliadau ledled y DU yn dod at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o drais un ergyd ac annog pobl i adnabod arwyddion sy'n rhybudd rhag sefyllfaoedd a allai fod yn dreisgar, a gwneud dewisiadau mwy diogel.
Yn ne Cymru, rhwng 2020 a 2025, roedd chwe achos o ddynladdiad o ganlyniad i ddigwyddiad un ergyd.
Mae Heddlu De Cymru yn defnyddio'r wythnos ymwybyddiaeth eleni i daflu goleuni ar y mater mewn cymunedau ar draws ardal yr heddlu, gan atgoffa pobl y gall yr hyn a all deimlo fel gweithred fyrbwyll o ddicter arwain at anaf neu farwolaeth sy'n newid bywydau.
Mae'r heddlu yn arbennig o awyddus i herio'r syniad bod un ergyd yn weithred ymosodol a fydd yn cael ei hanghofio'n fuan wedyn. Mewn gwirionedd, gall y canlyniadau ymestyn ymhell y tu hwnt i'r foment ei hun - gan effeithio ar ddioddefwyr, teuluoedd, ffrindiau, cymunedau a'r person sy'n gyfrifol.
Fel rhan o'r wythnos, mae Heddlu De Cymru yn lansio ymgyrch newydd wedi'i llunio o amgylch y syniad "gweld yn goch" - y foment pan fydd dicter yn cymryd drosodd a gall sefyllfa waethygu.
Mae ffilm yr ymgyrch yn dangos pa mor gyflym y gall gwrthdaro droi'n drais, cyn tynnu sylw at y canlyniadau dinistriol a dyfodiad yr heddlu. Mae'n gorffen â neges atgoffa drawiadol: gall un ergyd ladd.
Mae'r ymgyrch wedyn yn cyflwyno neges syml am yr hyn y gall pobl ei wneud pan fyddant yn teimlo bod sefyllfa yn gwaethygu: cerddwch i ffwrdd.
Bydd y ffilm yn rhan o raglen ehangach o weithgarwch cyfryngau cymdeithasol gan Heddlu De Cymru drwy gydol Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd, sydd â'r nod o annog pobl i feddwl am eu hymddygiad, adnabod pan fydd tensiynau'n codi a gwneud y penderfyniad i gamu i ffwrdd cyn y bydd trais.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Tom Williams:
"Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd yn gyfle pwysig i atgoffa pobl y gall trais arwain at ganlyniadau dinistriol, hyd yn oed pan fydd yn para dim ond ychydig eiliadau.
"Gall ergyd achosi anaf trychinebus neu farwolaeth. Gall adael teulu heb anwylyd a newid bywydau pawb sy'n gysylltiedig am byth.
"Rydyn ni eisiau i bobl gydnabod y trobwynt pan fo sefyllfa yn dechrau gwaethygu - pan fydd dicter yn cymryd drosodd ac efallai eich bod chi'n 'gweld yn goch' - a gwneud y penderfyniad i gerdded i ffwrdd.
"Does dim cywilydd mewn cerdded i ffwrdd o wrthdaro. Mewn gwirionedd, efallai dyma fydd y penderfyniad pwysicaf byddwch chi erioed wedi'i wneud."
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Emma Wools:
"Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd yn gyfle hanfodol i addysgu pobl am risgiau trais a'u helpu i gydnabod pan fydd tensiynau'n cynyddu, gan eu hannog i gerdded i ffwrdd cyn i sefyllfa droi'n dreisgar.
“Mae pob ergyd yn un yn ormod, a gall penderfyniad byrbwyll pan fyddwch wedi'ch gwylltio arwain at ganlyniadau fydd yn parhau am oes.
“Dyna pam rwyf wedi ymroi i gefnogi a buddsoddi mewn ymgyrchoedd fel Wythnos Ymwybyddiaeth Un Ergyd, sy'n annog dewisiadau cadarnhaol ac yn helpu i atal trais cyn iddo ddigwydd. Mae'r ymgyrch hon yn adlewyrchu fy mlaenoriaeth o greu trefi a chanol dinasoedd mwy diogel ledled de Cymru a lleihau troseddu a thrais, fel y nodir yn fy Nghynllun yr Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder.
“Mae gan bawb rôl i'w chwarae yn creu cymunedau mwy diogel. Os ydych chi'n teimlo bod sefyllfa yn gwaethygu, gwnewch y penderfyniad cywir: cerddwch i ffwrdd, peidiwch â dewis trais."
Sefydlwyd One Punch UK, y sefydliad wrth wraidd yr wythnos ymwybyddiaeth flynyddol, yn dilyn marwolaeth Kristian Thompson, 19 oed, a fu farw ar ôl cael ei ddyrnu yn ystod noson allan. Mae'r sefydliad yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o drais un ergyd, addysgu pobl am y risgiau a'r canlyniadau, a chefnogi dioddefwyr, teuluoedd a ffrindiau sy'n ymdrin â'r effaith.