Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Rhyddhau dyn 87 oed o fechnïaeth yr heddlu heb unrhyw gamau gweithredu pellach – mae’r adolygiad fforensig yn parhau.
Cafodd dyn 87 oed ei arestio ym mis Rhagfyr 2025 wedi i dditectifs gynnal adolygiad fforensig trylwyr o dystiolaeth sy’n gysylltiedig â llofruddiaethau Harry a Megan Tooze yn 1993. Mae’r dyn wedi cael gwybod nad yw’n destun ymchwiliad bellach ac mae wedi cael ei ryddhau. Nid oes angen cymryd camau gweithredu pellach.
Mae’r adolygiad fforensig, sy'n cael ei arwain gan Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru, yn dal i fynd rhagddo.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O'Shea: "Rydym yn ymrwymedig o hyd i ddatrys y llofruddiaethau erchyll hyn a ddigwyddodd dros dri degawd yn ôl.
"Dyw hi byth yn rhy hwyr i gysylltu â ni - hyd yn oed ar ôl yr holl amser sydd wedi mynd heibio, rwy'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y llofruddiaethau i gysylltu â ni gan y gallai’r wybodaeth honno ein helpu i sicrhau cyfiawnder i'r teulu.”
Mae perthnasau agosaf Harry a Megan Tooze yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd ac yn cael diweddariadau rheolaidd am hynt yr ymchwiliad.