Stamp amser presennol: 02/10/2026 16:25:02
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carcharu Michael Davies am lofruddiaeth Tracey Davies

Cynnwys y prif erthygl

RhCT/Merthyr/Pen-y-bont ar Ogwr Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 11:48 02/10/2026
Michael Davies.jpg
Michael Davies

 

Ar 11 Medi yn Llys y Goron Casnewydd cafwyd Michael Davies, 57 oed, o Heol Cefn, Pen-y-bont ar Ogwr, yn euog o lofruddiaeth ar ôl lladd ei wraig Tracey Davies yn anghyfreithlon.

Ar 18 Ebrill gyda'r hwyr, ychydig cyn 9.20pm, cafodd Heddlu De Cymru alwad frys gan aelod o'r teulu a oedd wedi mynd i holi ynghylch y cwpl ar ôl peidio â chael cyswllt am 24 awr. Ar ôl mynd i mewn i'w cartref ar Deras Bryn, Cefn Cribwr, darganfu'r galwr fod Tracey Davies wedi marw yn yr ystafell wely, a bod Michael Davies yn anymwybodol a chanddo anafiadau trywanu.

Cyrhaeddodd y gwasanaethau brys yn gyflym a chadarnhawyd bod Tracey Davies wedi marw. Cafodd Michael Davies ei gludo i'r ysbyty ac yna cafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. Cynhaliwyd post-mortem a ddaeth i'r casgliad bod Mrs Davies wedi marw o ganlyniad i dagu.

Cafodd Mr Davies ei ryddhau o'r ysbyty wythnos yn ddiweddarach ac yn ystod ei gyfweliad â'r heddlu cyfaddefodd ei fod wedi tagu ei wraig Tracey Davies ond ni roddodd unrhyw esboniad pam. Yna dywedodd ei fod wedi cymryd gorddos cyn trywanu ei hun.

Yn ystod yr ymchwiliad, datgelwyd bod Michael Davies, a oedd yn gweithio i ffwrdd yn Abu Dhabi, wedi dychwelyd adref i Gefn Cribwr oherwydd ei iechyd meddwl gwael. Dywedodd ei fod yn teimlo'n ansicr, yn genfigennus ac yn baranoiaidd y gallai ei wraig ei adael.

Plediodd Michael Davies yn euog i ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig, ar ôl cael ei asesu fel un oedd yn dioddef o anhwylder iselder a gorbryder ar adeg y drosedd.

Clywodd y rheithgor dystiolaeth gan dri seiciatrydd fforensig a oedd wedi asesu Mr Davies yn yr achos hwn. Ar ôl trafod yr holl dystiolaeth, penderfynwyd nad oedd ganddo'r amddiffyniad o gyfrifoldeb lleiedig a chafwyd dyfarniad euog am y cyhuddiad o lofruddiaeth.

Dedfrydwyd Michael Davies i garchar am oes, gydag isafswm o 14 mlynedd yn y carchar, pan ymddangosodd gerbron Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener 2 Hydref.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Claire Lamerton o Heddlu De Cymru:

“Mae'r ddedfryd heddiw yn adlewyrchu pa mor ddifrifol oedd gweithredoedd Michael Davies. Mae marwolaeth Tracey Davies a'r ffordd y cafodd ei lladd wedi effeithio'n ddwfn ar y teulu agos ac hefyd ar y gymuned ehangach oedd yn ei hadnabod.
“Yn ystod y treial tynnwyd sylw at y ffaith bod Tracey Davies yn wraig, yn fam, yn chwaer ac yn ffrind ffyddlon ac roedd teulu'n golygu popeth iddi. Byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un ac roedd yn wraig gefnogol a chariadus i Mr Davies. Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i deulu a ffrindiau Tracey, er ein bod yn cydnabod efallai na fydd eu galar byth yn cael ei oresgyn.
“Nid oedd digwyddiadau 18 Ebrill a llofruddiaeth Tracey Davies wedi'u rhagweld. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a thrais domestig, gan sicrhau bod unigolion yn cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.
“Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth, gallwch gael cymorth drwy gysylltu â gwasanaethau lleol neu linellau cymorth.”

Mae teulu Tracey wedi talu'r deyrnged ganlynol iddi:

“Fel teulu, nid ydym wedi dod i delerau â cholli Tracey, ac ni fyddwn byth yn dod i delerau â hynny.
“Drwy ei cholli mewn ffordd mor ofnadwy a threisgar, mae'n gwaethygu'r boen rydym yn ei theimlo.
"Ni fydd unrhyw ddedfryd i Michael, ni waeth pa mor hir, byth yn dod â Tracey nôl ac ni fydd byth yn gyffelyb i'r gosb i ni fel teulu sy'n gorfod byw heb Tracey.
“Roedd hi'n fam ymroddedig, yn chwaer annwyl, yn ffrind ffyddlon, yn gefnder gariadus ac yn fodryb ac yn bresenoldeb gwirioneddol ddisglair a oedd yn gallu goleuo unrhyw ystafell â'i chwerthin.
“Ei phlant oedd ei balchder mwyaf, ac ymladdodd hi drostyn nhw ag ymroddiad digyffelyb. Rydym yn caru ac yn hiraethu gymaint am Tracey. Byddwn ni bob amser yn ei chofio."

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.