Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Sami Aharroud, 74 oed, wedi cael ei garcharu am 10 mlynedd am dreisio menyw fwy nag 20 mlynedd yn ôl.
Daeth ei droseddau i'r amlwg ar ôl i'r dioddefwr dewr riportio'r unigolyn yn 2022.
Gwnaeth Aharroud, o'r Sblot yng Nghaerdydd, wadu'r achos o dreisio ond fe'i cafwyd yn euog yn dilyn achos llys yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Gorffennaf 2026.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr ar 12 Hydref 2026 i 10 mlynedd o garchar, yn ogystal â chyfnod estynedig o dair blynedd ar drwydded.
Mae'n parhau i fod yn destun Gorchymyn Atal a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol er mwyn amddiffyn y dioddefwr ymhellach.
Dywedodd y swyddog fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Ringyll Stacey Bolton o Heddlu De Cymru: "Mae'r dioddefwr wedi bod mor gryf drwy gydol y broses hon, ar ôl byw gydag effaith gweithredoedd Aharroud am fwy nag ugain mlynedd cyn teimlo'n barod i gysylltu â'r heddlu.
"Yna helpodd hi i gefnogi ymchwiliad estynedig, ac yn ddewr iawn a chyda chefnogaeth ei theulu, aeth hi gerbron y llys i ddarllen datganiad am yr effaith arni.
"Gobeithio y bydd y canlyniad yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl iddi fod cyfiawnder wedi'i weinyddu o'r diwedd, a hoffem anfon ein dymuniadau gorau iddi wrth iddi barhau i wella ar ôl y profiad ofnadwy hwn.
"Mae'r achos hwn yn dangos unwaith eto nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddioddefwyr troseddau rhywiol gysylltu â ni."
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid hi yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i unrhyw un sydd wedi dioddef trais rhywiol, a byddem yn annog pob dioddefwr, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael:
Fel arall, gallwch chi gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng